RHAN 6Tynnu neu amnewid marciau adnabod ar anifeiliaid a adnabuwyd cyn 1 Ionawr 2016
Tynnu neu amnewid marciau adnabod19
1
Ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 4(6) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor na methu â chydymffurfio â hi.
2
Ond rhaid i geidwad amnewid marc adnabod sydd ar goll neu’n annarllenadwy, yn unol ag erthygl 20, erthygl 21 neu erthygl 22 (pa erthygl bynnag sy’n gymwys) cyn gynted â phosibl ar ôl canfod bod y marc adnabod gwreiddiol ar goll neu’n annarllenadwy, ond beth bynnag—
a
dim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl canfod bod y marc adnabod ar goll neu’n annarllenadwy; a
b
cyn bo’r anifail yn cael ei symud o’r daliad.
3
Pan ddisodlir marc adnabod gan farc adnabod sy’n dwyn cod adnabod gwahanol, ac nad yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol a’r hen god adnabod yn hysbys rhaid i’r ceidwad groesgyfeirio’r hen god adnabod a’r cod adnabod newydd yng nghofrestr y daliad.
4
Mae’n amddiffyniad pan fo unrhyw berson, a gyhuddir o drosedd o fynd yn groes i baragraffau (1) neu (2) neu o fethu â chydymffurfio â hwy, yn profi—
a
bod y marc adnabod wedi ei dynnu i atal poen ddiangen i anifail; a
b
bod modd adnabod amnewid sy’n dwyn yr un cod adnabod wedi ei osod ar yr anifail cyn gynted â phosibl.
5
Caiff ceidwad dynnu marciau adnabod ac ailadnabod yr anifail yn unol ag erthygl 9 ar unrhyw adeg.