RHAN 5Adnabod geifr a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016

Adnabod geifr16

1

Pan fo gafr ar ei daliad genedigol ac na chafodd ei hadnabod cyn 1 Ionawr 2016 rhaid i’r ceidwad, os nad yw’r afr wedi ei hadnabod yn unol â Rhan 3, ei hadnabod o fewn y terfynau amser a bennir yn erthygl 9(3), gyda naill ai—

a

dau dag clust;

b

tag clust a thag egwyd; neu

c

tag clust a thatŵ.

2

Rhaid i’r cod adnabod ar fodd adnabod fod fel a ganlyn—

a

y llythrennau “UK”; a

b

rhif 12 digid yn unol â chynllun rhifo a ragnodir gan Weinidogion Cymru;

a rhaid iddo fod yn union yr un fath ar y modd adnabod cyntaf a’r ail fodd adnabod.