RHAN 4Tynnu neu amnewid modd adnabod anifeiliaid a gafodd eu hadnabod o dan Ran 3

Tynnu neu amnewid modd adnabod13

1

Ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 4(6) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor na methu â chydymffurfio â hi.

2

Ond rhaid i geidwad amnewid modd adnabod sydd ar goll neu’n annarllenadwy, yn unol ag erthyglau 14 neu 15 yn ôl gofynion yr achos, cyn gynted â phosibl ar ôl canfod bod y modd adnabod gwreiddiol ar goll neu’n annarllenadwy, ond beth bynnag—

a

dim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl canfod bod y modd adnabod ar goll neu’n annarllenadwy, a

b

cyn bo’r anifail yn cael ei symud o’r daliad.

3

Pan ddisodlir marc adnabod gan farc adnabod sy’n dwyn cod adnabod gwahanol, a’r hen god adnabod yn hysbys, rhaid i’r ceidwad groesgyfeirio’r hen god adnabod a’r cod adnabod newydd yng nghofrestr y daliad.

4

Mae’n amddiffyniad pan fo unrhyw berson, a gyhuddir o drosedd o fynd yn groes i baragraffau (1) neu (2) neu o fethu â chydymffurfio â hwy, yn profi—

a

bod y modd adnabod wedi ei dynnu i atal poen ddiangen i anifail; a

b

bod modd adnabod amnewid sy’n dwyn yr un cod adnabod wedi ei osod ar yr anifail cyn gynted â phosibl.