RHAN 3Adnabod anifeiliaid
Adnabod anifeiliaid a fwriedir ar gyfer eu cigydda10
1
Ar gyfer anifeiliaid y bwriedir eu cigydda cyn 12 mis oed ac na fwriedir eu hallforio, awdurdodir y dull adnabod yn Adran A.7 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor, a rhaid i’r dull adnabod hwnnw fod yn electronig yn achos defaid.
2
Rhaid i’r cod adnabod at ddibenion Adran A.7 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod fel a ganlyn, sef y llythrennau “UK” ac wedyn nod y ddiadell neu nod yr eifre; ni chaniateir i unrhyw rif arall a ddyroddir gan yr awdurdod cymwys gael ei gofnodi yn weledol ar y tag clust hwn.
3
Pan fwriedir cigydda ar ôl 12 mis oed neu allforio anifail a adnabuwyd o dan baragraff (1) rhaid i’r anifail hwnnw gael ei adnabod yn unol ag erthygl 9 a rhaid tynnu’r tag clust gwreiddiol oddi arno.
4
Caiff ceidwad ailadnabod, o dan erthygl 9, unrhyw anifail a adnabuwyd o dan yr erthygl hon ac nid oes angen iddo gigydda’r anifail hwnnw cyn 12 mis oed ar yr amodau canlynol yn unig—
a
os yw’r anifail ar ei ddaliad genedigol; neu
b
os oes gan y ceidwad gofnod cyflawn o holl symudiadau’r anifail.
5
Pan ailadnabyddir anifail o dan baragraff (4)(b) rhaid i’r ceidwad groesgyfeirio’r hen god adnabod a’r cod adnabod newydd yng nghofrestr y daliad.
6
Caiff ceidwad ailadnabod gafr a adnabuwyd o dan baragraff (1) drwy ddefnyddio tag clust o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (2) sy’n cynnwys dynodiad electronig.