2015 Rhif 1991 (Cy. 301)

Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru

Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) (Adolygu) (Rhif 2) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 21(6) a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 20041 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy.

Yn unol ag adran 21(5) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag awdurdodau tân ac achub neu bersonau yr ystyrir eu bod yn eu cynrychioli hwy, personau yr ystyrir eu bod yn cynrychioli cyflogeion awdurdodau tân ac achub ac unrhyw bersonau eraill yr oeddent yn eu hystyried yn briodol.