Yr amodau sydd i’w bodloni gan weithredwr cronfa ddata6
1
O’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym ymlaen, rhaid i weithredwr cronfa ddata—
a
meddu digon o gynhwysedd cronfa ddata i storio yn electronig, ac adalw, yr holl fanylion a ddarperir iddo gan geidwaid yn unol â rheoliad 3;
b
cadw copïau wrth gefn o’r holl ddata hyn yn ddyddiol, mewn cyfleuster diogel oddi ar y safle;
c
darparu unrhyw wybodaeth yn rheoliad 5, y gofynnir amdani gan berson awdurdodedig;
d
darparu unrhyw wybodaeth yn rheoliad 5 y gofynnir amdani gan geidwad ci, mewn perthynas â’r ci hwnnw;
e
cynnal system ar gyfer adnabod pobl a awdurdodwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn, sy’n gwneud ymholiadau ynglŷn â chŵn y cofnodir eu manylion yn ei gronfa ddata;
f
cynnal system ar gyfer adnabod ceidwaid cŵn, sy’n gwneud ymholiadau ynglŷn â chŵn y cofnodir eu manylion yn ei gronfa ddata;
g
cadw cofnodion i ddangos bod gweithredwr y gronfa ddata yn cydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn;
h
cynnal system ar gyfer ateb ceisiadau teleffon a cheisiadau ar-lein am fanylion a gedwir yn ei gronfa ddata, drwy gydol yr amser;
i
cynnal system ar gyfer ailgyfeirio ymholiadau teleffon ynglŷn â chŵn y cofnodir eu manylion mewn cronfeydd data eraill sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)(a), at weithredwyr y cronfeydd data hynny; a
j
gallu ailgyfeirio yn awtomatig unrhyw gais ar-lein, ynglŷn â chŵn y cofnodir eu manylion mewn cronfeydd data eraill sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)(a), i’r cronfeydd data hynny.
2
Rhaid i weithredwr cronfa ddata—
a
rhoi ar gael i weithredwyr cronfa ddata perthnasol eraill sy’n gweithredu yn unol â’r rheoliad hwn yr wybodaeth sydd ei hangen i ganiatáu i’r gweithredwyr cronfeydd data eraill hynny benderfynu pa rifau microsglodyn sy’n ymwneud â chŵn y cofnodir eu manylion yn y gronfa ddata honno; a
b
meddu system ar gyfer ateb ymholwyr yn uniongyrchol ynglŷn ag unrhyw ymholiad a dderbynnir yn unol â pharagraff (1)(i) neu (1)(j).
3
Yn y rheoliad hwn, ystyr “gweithredwr cronfa ddata perthnasol” (“relevant database operator”) yw gweithredwr cronfa ddata—
a
sy’n honni ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliad hwn; a
b
nad yw Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno hysbysiad iddo o dan reoliad 7(2)(a).
4
Yn y rheoliad hwn ystyr “cais ar-lein” (“on-line request”) yw cais a gyflwynir i weithredwr cronfa ddata yn y modd y darperir ar ei gyfer gan wefan y gweithredwr cronfa ddata.