Manylion sydd i’w cofnodi mewn cronfeydd data5

1

Y manylion sydd i’w cofnodi mewn cronfa ddata yw’r canlynol—

a

enw a chyfeiriad llawn y ceidwad;

b

os yw’n gymwys, y ffaith mai’r ceidwad yw’r bridiwr yn ogystal;

c

os y ceidwad yw’r bridiwr ac yntau wedi ei drwyddedu gan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 7

i

rhif trwydded y bridiwr; a

ii

enw’r awdurdod lleol y’i trwyddedwyd ganddo;

d

yr enw neu’r rhif adnabod gwreiddiol a roddwyd i’r ci;

e

y rhif teleffon cyswllt (os oes un) ar gyfer y ceidwad;

f

y cyfeiriad e-bost (os oes un) ar gyfer y ceidwad;

g

yr enw a roddwyd i’r ci gan y ceidwad, os yw’n wahanol i’r manylion a gofnodwyd yn unol ag is-baragraff (d);

h

rhyw y ci;

i

brid y ci, neu ddisgrifiad ohono os yw’n gi croesfrid;

j

lliw y ci;

k

unrhyw nodweddion neilltuol i’r ci;

l

yr amcangyfrif gorau posibl y gall y ceidwad ei roi o ddyddiad geni’r ci; ac

m

rhif unigryw’r microsglodyn a fewnblannwyd yn y ci.

2

Yn y rheoliad hwn, ystyr “bridiwr” (“breeder”) yw ceidwad unrhyw ast sy’n rhoi genedigaeth, pa un a yw’n cynnal busnes fel bridiwr cŵn ai peidio.