Rhwymedigaeth i ficrosglodynnu cŵn3.

(1)

Yn ddarostyngedig i dystysgrif a ddyroddir o dan baragraff (2) neu (3), o 6 Ebrill 2016 ymlaen, rhaid i geidwad pob ci nad oes microsglodyn wedi ei fewnblannu ynddo erbyn y dyddiad hwnnw ac—

(a)

sy’n hŷn nag 8 wythnos; a

(b)

nad yw’n gi gwaith ardystiedig yn yr ystyr o “certified working dog” at ddibenion adran 6(3) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 20065,

sicrhau y caiff ei ficrosglodynnu.

(2)

Nid yw paragraff (1) yn gymwys am gyhyd ag y bo milfeddyg yn ardystio, ar ffurflen a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, y byddai microsglodynnu yn peryglu iechyd y ci yn sylweddol.

(3)

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), o 6 Ebrill 2016 ymlaen, rhaid i geidwad sy’n mewnforio ci sicrhau y caiff y ci ei ficrosglodynnu o fewn 30 diwrnod ar ôl mewnforio’r ci oni fydd milfeddyg yn ardystio, ar ffurflen a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, y byddai microsglodynnu yn peryglu iechyd y ci yn sylweddol.

(4)

Rhaid i dystysgrif a ddyroddir o dan baragraff (2) neu (3) ddatgan am ba gyfnod na fydd y ci yn ffit i’w ficrosglodynnu.

(5)

Mae ci wedi ei ficrosglodynnu pan fo—

(a)

microsglodyn sy’n cydymffurfio â rheoliad 4 wedi ei fewnblannu yn y ci; a

(b)

y manylion a bennir yn rheoliad 5 wedi eu cofnodi mewn cronfa ddata gan weithredwr cronfa ddata sy’n bodloni’r amodau a bennir yn rheoliad 6.