Diwygio Rheoliadau Tocio Cynffonnau Cŵn Gwaith (Cymru) 200716.

Yn lle paragraff (1)(b) o reoliad 5 o Reoliadau Tocio Cynffonnau Cŵn Gwaith (Cymru) 200713 rhodder—

“(b)

gyda microsglodyn—

(i)

sydd â rhif unigryw sy’n cynnwys cod y gwneuthurwr;

(ii)

sy’n cydymffurfio â safon ISO 11784:1996 o safonau’r Sefydliad Safonau Rhyngwladol ar gyfer microsglodion;

(iii)

sy’n cydymffurfio â’r cyfan o safon ISO 11785:1996 o safonau’r Sefydliad Safonau Rhyngwladol ar gyfer microsglodion ac eithrio Atodiad A; a

(iv)

sy’n ymateb i drosdderbynnydd sy’n gweithredu ar 134.2 cilohertz ac yn cydymffurfio â’r protocol FDXB a bennir yn y safonau ISO 11784:1996 ac 11785:1996.”