Troseddau gan gyrff corfforaethol, partneriaethau neu gymdeithasau anghorfforedig15
1
Pan fo—
a
trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni gan gorff corfforaethol, partneriaeth, partneriaeth Albanaidd neu gymdeithas anghorfforedig arall, a
b
profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu’n briodoladwy i unrhyw esgeulustod ar ran, unigolyn perthnasol (gan gynnwys person sy’n honni gweithredu yn rhinwedd swydd unigolyn perthnasol),
mae’r unigolyn perthnasol yn ogystal â’r corff corfforaethol, partneriaeth, partneriaeth Albanaidd neu gymdeithas anghorfforedig arall, yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
2
Ym mharagraff (1), ystyr “unigolyn perthnasol” (“relevant individual”) yw—
a
mewn perthynas â chorff corfforaethol—
i
cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff hwnnw;
ii
os aelodau’r corff sy’n rheoli ei faterion, aelod;
b
mewn perthynas â phartneriaeth neu bartneriaeth Albanaidd, partner;
c
mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth Albanaidd, person sy’n ymwneud â rheolaeth neu reoli’r gymdeithas.
3
Caniateir dwyn achos cyfreithiol am drosedd dan y Rheoliadau hyn, yr honnir iddi gael ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.
4
At ddibenion achosion cyfreithiol yn unol â pharagraff (3), mae’r darpariaethau canlynol yn gymwys fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol—
a
rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau;
b
adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 192511; ac
c
Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 198012.
5
Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig yn dilyn collfarn am drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig.