Adweithiau anffafriol10

1

Rhaid i unrhyw un sy’n canfod adwaith anffafriol i ficrosglodyn, neu fethiant microsglodyn, adrodd am yr adwaith neu’r methiant hwnnw wrth Weinidogion Cymru.

2

Yn y rheoliad hwn ystyr “adwaith anffafriol” (“adverse reaction”) yw—

a

unrhyw boen neu ddioddefaint diangen, neu unrhyw batholeg ar ran ci a achoswyd gan, neu sy’n ymddangos wedi ei achosi gan, fewnblannu microsglodyn; neu

b

ymfudiad microsglodyn o safle’r mewnblaniad.

3

Yn y rheoliad hwn, ystyr “methiant microsglodyn” (“failure of a microchip”) yw methiant i drawsyrru’r rhif a amgodiwyd yn y microsglodyn pan sganiwyd y microsglodyn gan drosdderbynnydd addas.