NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer microsglodynnu cŵn yn orfodol a chofnodi manylion adnabod pob ci a manylion cyswllt ei geidwad mewn cronfa ddata.

Mae rheoliad 3 yn gosod dyletswydd ar bob ceidwad ci i sicrhau bod ei gi wedi ei ficrosglodynnu a gwybodaeth wedi ei chofnodi mewn cronfa ddata. Yn ôl y diffiniad o geidwad yn y Rheoliadau hyn, ystyrir mai bridiwr yw ceidwad cyntaf ci bach, os y bridiwr yw perchennog yr ast a roddodd enedigaeth i’r ci bach hwnnw. Gan hynny, mae’r bridiwr o dan ddyletswydd i sicrhau y microsglodynnir ci bach o’r fath yn unol â rheoliad 3. Mae rheoliad 4 yn pennu’r gofynion o ran y microsglodion a ddefnyddir, a rheoliad 5 yn pennu’r wybodaeth sydd i’w chofnodi mewn cronfa ddata.

Mae rheoliad 6 yn pennu’r amodau sydd i’w bodloni gan weithredwyr cronfeydd data.

Mae rheoliad 7 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ofyn am wybodaeth o’r cronfeydd data. Yn ogystal, mewn amgylchiadau pan fo gweithredwr cronfa ddata yn methu a chyflawni gofynion rheoliad 6, mae rheoliad 7 rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i gyflwyno hysbysiad i weithredwr cronfa ddata, sy’n gwneud yn ofynnol ei fod yn peidio â honni ei fod yn bodloni gofynion y Rheoliadau. Caiff yr hysbysiad wneud yn ofynnol hefyd ei fod yn darparu copi electronig, i Weinidogion Cymru neu i weithredwr cronfa ddata arall, o’r data a gofnodwyd yn unol â’r Rheoliadau hyn,.

Mae rheoliad 8 yn gwneud yn ofynnol fod ceidwad newydd yn diweddaru’r wybodaeth yn y gronfa ddata pan fo ceidwadaeth ci yn cael ei throsglwyddo, ac yn gwahardd trosglwyddo ci i geidwad newydd cyn bo’r ci wedi ei ficrosglodynnu. Bydd unrhyw geidwad newydd sy’n methu â diweddaru cronfa ddata drwy gynnwys y manylion perthnasol yn peri na fydd y ci wedi ei ficrosglodynnu’n briodol yn unol â rheoliad 3, a gellir cymryd camau gorfodi yn erbyn y ceidwad newydd. Mae rheoliad 9 yn pennu safonau hyfforddiant ar gyfer pobl sy’n mewnblannu microsglodion. Mae rheoliad 10 yn darparu ar gyfer adrodd am unrhyw achosion o adwaith anffafriol i ficrosglodyn neu ymfudiad neu fethiant microsglodyn. Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer penodi personau awdurdodedig i arfer pwerau o dan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 12 yn rhoi i bersonau awdurdodedig y pŵer: i gyflwyno hysbysiad i geidwad ci i ficrosglodynnu’r ci; i ficrosglodynnu ci ac adennill y gost o wneud hynny oddi ar y ceidwad; ac i gymryd meddiant o gi at y diben o’i ficrosglodynnu.

Mae rheoliad 13 yn cynnwys troseddau. Mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer apelau i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn gwahanol hysbysiadau. Mae rheoliad 15 yn darparu ar gyfer troseddau a gyflawnir gan gyrff corfforaethol, partneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig.

Mae rheoliad 16 yn gwneud darpariaeth ar gyfer diwygiadau canlyniadol.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch drafft o’r Rheoliadau hyn ar 16 Mehefin 2015 yn unol â’r Gyfarwyddeb Safonau Technegol (Cyfarwyddeb 98/34/EC fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 98/48/EC).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, cynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono o Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.