ATODLEN 2Swyddogaethau cymorth i deuluoedd
Y swyddogaeth | Rhychwant |
|---|---|
Rhannau 3 a 4 o’r Ddeddf (asesu a diwallu anghenion am ofal a chymorth) | I’r graddau y maent yn ymwneud â diwallu anghenion plant sydd wedi cael eu hasesu o dan adran 21 o’r Ddeddf fel rhai sydd ag anghenion am ofal a chymorth ac ar gyfer eu teuluoedd. |
Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) |
Y swyddogaeth | Rhychwant |
|---|---|
Rhannau 3 a 4 o’r Ddeddf (asesu a diwallu anghenion am ofal a chymorth) | I’r graddau y maent yn ymwneud â diwallu anghenion personau sydd dros 18 oed ac sydd wedi cael eu hasesu o dan adran 19 o’r Ddeddf fel rhai sydd ag anghenion am ofal a chymorth oherwydd eu bod yn ddibynnol ar alcohol neu ar gyffuriau, neu oherwydd eu bod yn ddioddefwyr trais domestig neu gam-drin domestig, oherwydd bod ganddynt hanes o ymddwyn yn dreisgar neu’n gamdriniol neu oherwydd bod ganddynt anhwylder meddwl. |
Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) |
Y swyddogaeth | Rhychwant |
|---|---|
Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) | I’r graddau y maent yn ymwneud â’r ddarpariaeth o wasanaethau neu gyfleusterau iechyd i blant, neu driniaeth i blant, sydd wedi cael eu hasesu o dan adran 21 o’r Ddeddf fel rhai sydd ag anghenion am ofal a chymorth, gan gynnwys asesu’r angen am wasanaethau neu gyfleusterau o’r fath. |
Adran 82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (cydweithredu rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol) | |
Adran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (dyletswydd i hyrwyddo gwasanaeth iechyd) | |
Adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (pwerau cyffredinol) | |
Adran 3(1)(c),(d), (e) ac (f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (darparu gwasanaethau penodol) | |
Adran 10(1), (2), (3), (4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (trefniadau gyda chyrff eraill) | |
Adran 38(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (dyletswydd i roi ar gael wasanaethau a ddarperir gan berson a gyflogir yn y gwasanaeth iechyd er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau) |
Y swyddogaeth | Rhychwant |
|---|---|
Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) | I’r graddau y maent yn ymwneud â’r ddarpariaeth o wasanaethau neu gyfleusterau iechyd i bobl, neu driniaeth i bobl, sy’n ddibynnol ar alcohol neu ar gyffuriau, neu sy’n ddioddefwyr trais domestig neu gam-drin domestig, sydd â hanes o ymddwyn yn dreisgar neu’n gamdriniol neu sydd ag anhwylder meddwl, i gynnwys asesu’r angen am wasanaethau neu driniaeth o’r fath. |