NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adrannau 166 i 169 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r gofynion i bob Bwrdd Iechyd Lleol a’r awdurdodau lleol o fewn ardal pob Bwrdd Iechyd Lleol gymryd rhan mewn trefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni swyddogaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol penodedig; mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth, ymhlith pethau eraill, ar gyfer gweithredu a rheoli’r trefniadau partneriaeth, sefydlu byrddau partneriaeth rhanbarthol a sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun.

Mae rheoliadau 2 i 8 yn disgrifio’r Byrddau Iechyd Lleol a’r awdurdodau lleol sydd i gymryd rhan yn y trefniadau partneriaeth. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn cael eu sefydlu ac yn ei gwneud yn ofynnol bod y trefniadau partneriaeth yn cael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol penodedig.

Mae rheoliad 9 ac Atodlen 1 yn disgrifio swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol sydd i gael eu cyflawni gan y trefniadau partneriaeth.

Mae rheoliadau 10, 11 a 12 yn darparu ar gyfer amcanion y byrddau partneriaeth rhanbarthol, ynghyd â’r gofynion o ran aelodaeth ac adrodd.

Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng cyrff partneriaeth, timau integredig cymorth i deuluoedd a byrddau partneriaeth rhanbarthol.

Mae rheoliad 14 yn galluogi pob corff partneriaeth i ddirprwyo swyddogaethau i gorff partneriaeth arall at ddibenion y trefniadau partneriaeth.

Mae rheoliadau 15 i 18 yn cynnwys darpariaeth benodol mewn perthynas â threfniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni swyddogaethau cymorth i deuluoedd (fel a bennir yn Atodlen 4) ac mewn perthynas â sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd. Bwriad y trefniadau hyn yw darparu parhad â’r trefniadau presennol o dan Ran 3 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.