Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015.

2

a

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac eithrio is-baragraff (a) o reoliad 19(1);

b

daw is-baragraff (a) o reoliad 19(1) i rym ar 6 Ebrill 2018.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

4

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “byrddau partneriaeth rhanbarthol” (“regional partnership boards”) yw’r byrddau y mae’n ofynnol iddynt gael eu sefydlu gan gyrff partneriaeth yn unol â rheoliadau 2 i 8;

  • “cyrff partneriaeth” (“partnership bodies”) yw’r cyrff hynny y mae’n ofynnol iddynt ymrwymo i gytundebau partneriaeth gan reoliadau 2 i 8;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

  • ystyr “swyddogaethau cymorth i deuluoedd” (“family support functions”) yw’r swyddogaethau a bennir yn rheoliad 15;

  • ystyr “swyddogaethau penodedig” (“specified functions”) yw’r swyddogaethau a bennir yn rheoliad 9;

  • ystyr “trefniadau partneriaeth” (“partnership arrangements”) yw’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan gyrff partneriaeth yn unol â rheoliadau 2 i 8.

Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gwent2

1

Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

  • Cyngor Sir Fynwy

  • Cyngor Dinas Casnewydd

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

2

Rhaid i’r byrddau hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gwent.

3

Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gwent.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gogledd Cymru3

1

Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

  • Cyngor Sir y Fflint

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

  • Cyngor Sir Ynys Môn

  • Cyngor Sir Gwynedd

  • Cyngor Sir Ddinbych

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

2

Rhaid i’r byrddau hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gogledd Cymru.

3

Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gogledd Cymru.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Caerdydd a’r Fro4

1

Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

  • Cyngor Dinas a Sir Caerdydd

  • Cyngor Bro Morgannwg.

2

Rhaid i’r byrddau hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Caerdydd a’r Fro.

3

Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Caerdydd a’r Fro.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin5

1

Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

  • Cyngor Dinas a Sir Abertawe

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

2

Rhaid i’r byrddau hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin.

3

Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf6

1

Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

2

Rhaid i’r byrddau hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf.

3

Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Cymru7

1

Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

  • Cyngor Sir Penfro

  • Cyngor Sir Caerfyrddin

  • Cyngor Sir Ceredigion.

2

Rhaid i’r cyrff hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Cymru.

3

Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Cymru.

Trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Powys8

1

Rhaid i drefniadau partneriaeth ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau penodedig gael eu gwneud gan y cyrff a ganlyn—

  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

  • Cyngor Sir Powys.

2

Rhaid i’r cyrff hyn, gyda’i gilydd, sefydlu bwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn, a’i enw fydd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Powys.

3

Rhaid i’r trefniadau partneriaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud gan y rheoliad hwn gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Powys.

Swyddogaethau penodedig9

Y swyddogaethau sydd i’w cyflawni yn unol â’r trefniadau partneriaeth yw’r swyddogaethau a ddisgrifir yn Atodlen 1.

Amcanion y byrddau partneriaeth rhanbarthol10

Amcanion bwrdd partneriaeth rhanbarthol yw—

a

sicrhau bod y cyrff partneriaeth yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol i—

i

ymateb i’r asesiad o’r boblogaeth a gynhaliwyd yn unol ag adran 14 o’r Ddeddf, a

ii

gweithredu’r cynlluniau ar gyfer pob un o’r ardaloedd awdurdod lleol a gwmpesir gan y bwrdd y mae’n ofynnol i bob un o’r awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd lleol eu llunio a’u cyhoeddi o dan adran 14A o’r Ddeddf2;

b

sicrhau bod y cyrff partneriaeth yn darparu adnoddau digonol ar gyfer y trefniadau partneriaeth, yn unol â’u pwerau o dan adran 167 o’r Ddeddf;

c

hyrwyddo sefydlu cronfeydd cyfun lle y bo’n briodol.

Aelodaeth o fyrddau partneriaeth rhanbarthol11

1

Rhaid i aelodaeth bwrdd partneriaeth rhanbarthol gynnwys y canlynol—

a

o leiaf un aelod etholedig o awdurdod lleol a sefydlodd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

b

o leiaf un aelod o Fwrdd Iechyd Lleol a sefydlodd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

c

y person a benodwyd yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol o dan adran 144 o’r Ddeddf mewn cysylltiad â phob awdurdod lleol a sefydlodd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol, neu ei gynrychiolydd enwebedig;

d

cynrychiolydd i’r Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlodd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

e

dau berson sy’n cynrychioli buddiannau sefydliadau’r trydydd sector yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

f

o leiaf un person sy’n cynrychioli buddiannau darparwyr gofal yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;

g

un person i gynrychioli pobl y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;.

h

un person i gynrychioli gofalwyr3 yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

2

Caiff bwrdd partneriaeth rhanbarthol gyfethol unrhyw bersonau eraill y mae’n meddwl eu bod yn briodol i fod yn aelodau o’r bwrdd.

3

Caiff y cyrff partneriaeth dalu taliadau cydnabyddiaeth ariannol a lwfansau i aelodau byrddau partneriaeth rhanbarthol.

4

At ddibenion y rheoliad hwn—

  • ystyr “darparwr gofal” (“care provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 20004 mewn cysylltiad â sefydliad neu asiantaeth (o fewn ystyr y Ddeddf honno);

  • mae i “sefydliad trydydd sector” (“third sector organisation”) yr un ystyr ag yn adran 16(2) o’r Ddeddf.

Adroddiadau12

1

Rhaid i fyrddau partneriaeth rhanbarthol lunio adroddiad ar y graddau y mae amcanion y bwrdd yn rheoliad 10 wedi eu cyflawni a rhaid iddynt gyflwyno’r adroddiad hwn i Weinidogion Cymru.

2

Rhaid llunio a chyflwyno’r adroddiad cyntaf erbyn 1 Ebrill 2017.

3

Rhaid llunio a chyflwyno’r adroddiadau yn flynyddol wedi hynny.

Rhannu gwybodaeth13

1

At ddibenion cyflawni’r swyddogaethau sy’n cael eu cyflawni gan y trefniadau partneriaeth, rhaid i gorff partneriaeth rannu gwybodaeth—

a

ag unrhyw un neu ragor o’r cyrff partneriaeth eraill;

b

â’r bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

2

At ddiben cyflawni’r swyddogaethau cymorth i deuluoedd penodedig, rhaid i dîm integredig cymorth i deuluoedd rannu gwybodaeth—

a

ag unrhyw un neu ragor o’r cyrff partneriaeth;

b

â’r bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

3

At ddibenion cyflawni ei amcanion, rhaid i fwrdd partneriaeth rhanbarthol rannu gwybodaeth ag unrhyw un neu ragor o’r cyrff partneriaeth.

4

Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraffau (1), (2) neu (3) yn gymwys os yw’n anghydnaws ag unrhyw un neu ragor o ddyletswyddau eraill y corff, gan gynnwys ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelu Data 19985 a Deddf Hawliau Dynol 19986.

Dirprwyo swyddogaethau14

1

Caiff awdurdod lleol gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau penodedig ar ran unrhyw un neu ragor o’r cyrff partneriaeth eraill sy’n cymryd rhan yn yr un trefniadau partneriaeth.

2

Caiff Bwrdd Iechyd Lleol gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau awdurdod lleol penodedig a ddisgrifir yn Nhabl 1 o Atodlen 1 ar ran unrhyw un neu ragor o’r awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan yn yr un trefniadau partneriaeth.

Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd

Swyddogaethau cymorth i deuluoedd15

Y swyddogaethau cymorth i deuluoedd yw’r swyddogaethau sydd wedi eu pennu yn Atodlen 2.

Sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd16

1

Rhaid i’r cyrff partneriaeth ar gyfer pob un o’r trefniadau partneriaeth sefydlu tîm at ddiben arfer swyddogaethau cymorth i deuluoedd.

2

Enw tîm a sefydlir o dan y rheoliad hwn fydd tîm integredig cymorth i deuluoedd.

3

Caiff y cyrff partneriaeth neilltuo swyddogaethau cymorth i deuluoedd i’r tîm integredig cymorth i deuluoedd.

4

Rhaid i dîm integredig cymorth i deuluoedd gynnwys staff sydd â’r sgiliau a’r profiad addas gan roi sylw—

a

i’r categorïau o achosion y gellir eu hatgyfeirio ato, a

b

i’r angen am gymorth gweinyddol ar staff proffesiynol.

Neilltuo ac arfer swyddogaethau cymorth i deuluoedd17

1

Rhaid i dîm integredig cymorth i deuluoedd gyflawni’r swyddogaethau cymorth i deuluoedd sydd wedi eu neilltuo iddo.

2

Mae swyddogaethau tîm integredig cymorth i deuluoedd i gael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

3

Mae swyddogaethau cymorth i deuluoedd tîm integredig cymorth i deuluoedd i gael eu cyflawni mewn cysylltiad â theulu a atgyfeirir ato gan yr awdurdod lleol.

4

Mae swyddogaeth a arferir o dan y Rheoliadau hyn yn arferadwy ar yr un pryd gan y tîm integredig cymorth i deuluoedd a chan y corff y rhoddir y swyddogaeth iddo.

Trefniadau ar gyfer atgyfeirio achosion at y timau integredig cymorth i deuluoedd18

1

Caiff corff partneriaeth atgyfeirio teulu at dîm integredig cymorth i deuluoedd os yw yn rhesymol yn credu neu’n amau—

a

bod rhiant plentyn yn y teulu hwnnw (neu ddarpar riant)—

i

yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau,

ii

yn ddioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig,

iii

â hanes o ymddwyn yn dreisgar neu’n gamdriniol, neu

iv

ag anhwylder meddwl; a

b

o ganlyniad i un neu ragor o’r amgylchiadau hyn, bod y plentyn, neu y bydd y plentyn, yn blentyn y mae angen gofal a chymorth arno a naill ai—

i

na fydd y plentyn yn gallu aros gyda’r teulu os na ddarperir gwasanaethau cymorth i deuluoedd,

ii

pan fo’r plentyn yn derbyn gofal, na fydd y plentyn yn gallu dychwelyd i fyw gyda’r teulu os na ddarperir gwasanaethau cymorth i deuluoedd, neu

iii

bod y plentyn, neu y bydd y plentyn, yn wynebu risg o gael ei gam-drin, ei esgeuluso neu ei niweidio mewn modd arall os na ddarperir gwasanaethau cymorth i deuluoedd.

2

Rhaid i atgyfeiriad at dîm integredig cymorth i deuluoedd gael ei wneud yn unol â gweithdrefn atgyfeirio y cytunir arni gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.

3

At ddibenion y rheoliad hwn, mae “teulu” (“family”) yn cynnwys pob un o’r canlynol—

a

plentyn, rhieni’r plentyn ac, os yw’r awdurdod yn meddwl ei bod yn briodol, unrhyw unigolyn arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn neu â’r rhieni;

b

unigolion sydd ar fin dod yn rhieni i blentyn ac, os yw’r awdurdod lleol yn meddwl ei bod yn briodol, unrhyw unigolyn arall sy’n gysylltiedig â’r unigolion sydd ar fin dod yn rhieni i’r plentyn hwnnw.

4

Caiff plentyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth gynnwys plentyn sy’n derbyn gofal.

5

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “anhwylder meddwl” (“mental disorder”) yw unrhyw anhwylder neu anabledd meddwl;

  • mae “cam-drin” (“abuse”) yn cynnwys gweithgarwch rhywiol heb gydsyniad ac ymddygiad afresymol sy’n debygol o achosi niwed seicolegol difrifol; mae cam-drin yn “cam-drin domestig” (“domestic abuse”) os daw oddi wrth unigolyn sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr; ac mae “camdriniol” (“abusive”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

  • mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr ag yn adran 74 o’r Ddeddf;

  • ystyr “plentyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth” (“child with needs for care and support”) yw plentyn y mae’r awdurdod lleol wedi penderfynu y mae arno anghenion am ofal a chymorth, yn dilyn asesiad o dan adran 21 o’r Ddeddf;

  • mae “rhiant” (“parent”) mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys unrhyw unigolyn—

    1. a

      nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu

    2. b

      sydd â gofal am y plentyn;

  • ystyr “trais” (“violence”) yw trais neu fygythiadau o drais sy’n debygol o gael eu cyflawni ac mae “treisgar” (“violent”) i’w ddehongli yn unol â hynny; mae trais yn “trais domestig” (“domestic violence”) os daw oddi wrth unigolyn sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr.

6

At ddibenion y diffiniad o “rhiant” (“parent”) ym mharagraff (4)—

a

mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag a roddir i “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 19897;

b

wrth benderfynu a oes gan unigolyn ofal am blentyn, mae unrhyw absenoldeb o’r plentyn mewn ysbyty, cartref plant neu leoliad maeth ac unrhyw absenoldeb dros dro arall i’w ddiystyru.

Cronfeydd Cyfun

Sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun19

1

Mae’n ofynnol i gyrff partneriaeth pob un o’r trefniadau partneriaeth sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun mewn perthynas ag—

a

arfer eu swyddogaethau llety cartref gofal;

b

arfer eu swyddogaethau cymorth i deuluoedd;

c

unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau penodedig y maent yn penderfynu y byddant yn eu harfer ar y cyd o ganlyniad i asesiad a gynhelir o dan adran 14 o’r Ddeddf neu unrhyw gynllun a lunnir o dan adran 14A o’r Ddeddf8.

2

Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “cartref gofal” yr un ystyr ag a roddir i “care home” yn Neddf Safonau Gofal 2000;

  • ystyr “swyddogaethau llety cartref gofal” (“care home accommodation functions”) yw—

    1. a

      swyddogaethau awdurdod lleol o dan adrannau 35 ac 36 o’r Ddeddf, pan benderfynwyd diwallu anghenion yr oedolyn drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu llety mewn cartref gofal;

    2. b

      swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 mewn perthynas ag oedolyn, mewn achosion—

      1. i

        pan fo gan yr oedolyn angen sylfaenol am ofal iechyd a phenderfynwyd diwallu anghenion yr oedolyn drwy drefnu i ddarparu llety mewn cartref gofal, neu

      2. ii

        pan na fo gan yr oedolyn angen sylfaenol am ofal iechyd ond na ellir diwallu anghenion yr oedolyn ond drwy drefnu gan yr awdurdod lleol i ddarparu llety ynghyd â gofal nyrsio.

Mark DrakefordY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru