Awdurdodiad Llys

Ceisiadau i’r llys4

1

Yr awdurdod lleol (gan gynnwys awdurdod lleol yn Lloegr) sy’n gofalu am y plentyn, yn unig, a gaiff wneud ceisiadau i lys o dan adran 119 o’r Ddeddf (yn ddarostyngedig i’r pŵer sydd gan awdurdod lleol i drefnu ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau gan berson arall o dan adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 19724 neu adrannau 14 i 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 20005).

2

Ond pan fo rheoliad 16 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys ac yn addasu adran 119 o’r Ddeddf gan wneud yr adran honno’n gymwys i blant ac eithrio rhai sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, caniateir ceisiadau i lys gan y Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, neu awdurdod lleol sy’n arfer ei swyddogaethau addysg, sydd yn darparu llety i blentyn y mae adran 119 o’r Ddeddf yn gymwys iddo.