Cyfnod Hwyaf heb Awdurdodiad Llys

Gofyniad pan fo plentyn dan gadwad heb awdurdodiad llys3

1

Cyn bo awdurdod lleol yn lleoli plentyn mewn llety diogel heb awdurdodiad llys, rhaid iddo yn gyntaf greu cofnod ysgrifenedig sy’n nodi—

a

y rhesymau pam y mae’n credu bod y seiliau o dan adran 119(1) o’r Ddeddf wedi eu bodloni;

b

diben y lleoliad; ac

c

y rhesymau pam y mae’n credu bod y lleoliad yn angenrheidiol.

2

Rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu copi o’r cofnod hwnnw i’r canlynol—

a

y plentyn ac unrhyw berson sy’n darparu cynrychiolaeth gyfreithiol i’r plentyn;

b

rhieni’r plentyn;

c

unrhyw berson nad yw’n rhiant y plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano;

d

ymwelydd annibynnol y plentyn os penodwyd un; ac

e

unrhyw berson arall y tybia’r awdurdod lleol y dylid ei hysbysu.