Cyfnod Hwyaf heb Awdurdodiad Llys
Cyfnod hwyaf mewn llety diogel heb awdurdodiad llys2
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a (3), y cyfnod hwyaf, na chaiff awdurdod lleol gadw plentyn mewn llety diogel y tu hwnt iddo heb awdurdodiad y llys, yw cyfnod cyfanredol o 72 o oriau (pa un ai’n olynol neu beidio) mewn unrhyw gyfnod o 28 diwrnod.
2
Os—
a
cedwir plentyn mewn llety diogel ar unrhyw adeg rhwng 12 canol dydd ar y diwrnod cyn gŵyl gyhoeddus neu ddydd Sul a 12 canol dydd ar y diwrnod ar ôl yr ŵyl gyhoeddus neu’r dydd Sul,
b
yn ystod yr amser hwnnw, byddai’r cyfnod hwyaf o 72 awr yn dod i ben, ac
c
yn ystod y 27 diwrnod cyn y diwrnod y dechreuodd y cyfnod diweddaraf mewn llety diogel, roedd y plentyn eisoes wedi ei gadw mewn llety diogel am gyfnod cyfanredol o fwy na 48 o oriau,
estynnir y cyfnod hwyaf tan 12 canol dydd ar y diwrnod cyntaf nad yw’n ŵyl gyhoeddus nac yn ddydd Sul.
3
Pan fo llys yn rhoi awdurdodiad i gadw plentyn mewn llety diogel, rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan gedwid y plentyn mewn llety diogel cyn cyfnod yr awdurdodiad hwnnw, wrth gyfrifo’r cyfnod hwyaf mewn perthynas ag unrhyw gyfnodau dilynol mewn llety diogel ar ôl i’r cyfnod a awdurdodwyd gan y llys ddod i ben.