Cymhwyso adran 119 i gategorïau penodol o blant

Plant y mae adran 119 yn cael effaith mewn perthynas â hwy yn ddarostyngedig i addasiadau16

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 7 a pharagraffau (2) a (3) o’r rheoliad hwn mae adran 119 o’r Ddeddf, yn ogystal ag i blant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol (gan gynnwys awdurdodau lleol yn Lloegr), yn gymwys hefyd i’r canlynol —

a

plant, ac eithrio rhai sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (gan gynnwys awdurdod lleol yn Lloegr), a letyir gan—

i

Byrddau Iechyd Lleol;

ii

Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (“Ymddiriedolaethau GIG”);

iii

awdurdodau lleol sy’n arfer swyddogaethau addysg;

b

plant, ac eithrio rhai sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, a letyir mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol.

2

Mewn perthynas â’r plant a bennir ym mharagraff (1)(a), mae adran 119 yn cael effaith yn ddarostyngedig i addasiadau fel a ganlyn—

a

yn is-adran (1) yn lle’r geiriau “sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr” rhodder “y darperir llety iddo gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau addysg”;

b

yn is-adran (2)(c) yn lle’r geiriau “gan awdurdod lleol” rhodder “gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau addysg”.

3

Mewn perthynas â’r plant a bennir ym mharagraff (1)(b), mae adran 119 yn cael effaith yn ddarostyngedig i addasiadau fel a ganlyn—

a

yn is-adran (1) yn lle’r geiriau “sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr” rhodder “y darperir llety iddo mewn cartref gofal neu mewn ysbyty annibynnol”; a

b

yn is-adran (2)(c) yn lle’r geiriau “gan awdurdod lleol” rhodder “gan berson sy’n cynnal cartref gofal neu ysbyty annibynnol”.