Cymhwyso adran 119 i gategorïau penodol o blant
Plant dan gadwad y mae adran 119 yn gymwys iddynt gydag addasiadau: plant dan gadwad o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 198415
1
Mae adran 119 o’r Ddeddf yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiad a bennir ym mharagraff (2) mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, sydd rhwng 12 ac 16 mlwydd oed ac sydd dan gadwad o dan adran 38(6) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 198412 (plant dan gadwad).
2
Yr addasiad, ym mharagraff (1), yw y rhoddir, yn lle’r geiriau o “onid yw’n ymddangos” hyd at ddiwedd is-adran (1), y canlynol—
onid yw’n ymddangos bod unrhyw lety arall ac eithrio llety a ddarperir at y diben o gyfyngu ar ryddid yn amhriodol oherwydd—
a
bod y plentyn yn debygol o ddianc o’r cyfryw lety arall, neu
b
bod y plentyn yn debygol o anafu ei hun neu bersonau eraill os cedwir y plentyn mewn unrhyw gyfryw lety arall.