Cymhwyso adran 119 i gategorïau penodol o blant

Plant nad yw adran 119 yn gymwys iddynt14

Nid yw adran 119 yn gymwys i blentyn—

a

sydd dan gadwad o dan unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf Iechyd Meddwl 19838 neu y gwnaed gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan adran 90 neu 91 o Ddeddf Pwerau’r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 20009 (cadw yn ôl ewyllys Ei Mawrhydi neu am gyfnod penodedig);

b

sy’n destun gorchymyn asesu plentyn a wnaed o dan adran 43 o Ddeddf Plant 198910ac a gedwir i ffwrdd o gartref yn unol â’r gorchymyn hwnnw;

c

sydd yn 16 neu 17 oed ac a letyir o dan adran 76 o’r Ddeddf;

d

sydd ar remánd i lety cadw ieuenctid ac a drinnir fel pe bai’n derbyn gofal yn rhinwedd adran 104(1) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 201211.