Cymhwyso adran 119 i gategorïau penodol o blant

Lleoli plentyn sydd o dan 13 oed mewn llety diogel13

1

Ni chaiff awdurdod lleol leoli plentyn sydd o dan 13 mlwydd oed mewn llety diogel heb gael cymeradwyaeth ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru ar gyfer lleoli’r plentyn hwnnw.

2

Caiff Gweinidogion wneud y gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i ba bynnag delerau ac amodau ag y tybiant yn briodol.