Gofynion mewn perthynas â lleoliadau mewn llety diogel
Adolygiadau o leoliad mewn llety diogel11
1
Rhaid i’r personau a benodir o dan reoliad 10 ystyried, gan roi sylw i les y plentyn a leolwyd, y materion canlynol—
a
a yw’r criteria ar gyfer cadw’r plentyn mewn llety diogel yn parhau’n gymwys;
b
a yw’r lleoliad mewn llety diogel yn parhau’n angenrheidiol, neu a fyddai llety o unrhyw ddisgrifiad arall yn diwallu anghenion y plentyn yn well.
2
Wrth gynnal adolygiad o’r lleoliad, rhaid i’r personau a benodir, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, ganfod a chymryd i ystyriaeth ddymuniadau a theimladau—
a
y plentyn;
b
rhieni’r plentyn;
c
unrhyw berson nad yw’n rhiant y plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano;
d
unrhyw berson arall a fu’n gofalu am y plentyn ac y tybia’r personau a benodwyd y dylid cymryd ei safbwyntiau i ystyriaeth;
e
ymwelydd annibynnol y plentyn, os penodwyd un;
f
y person sy’n rheoli’r llety diogel y lleolir y plentyn ynddo.
3
Rhaid i’r personau a benodir wneud argymhelliad i’r awdurdod lleol ynghylch a ddylai lleoliad y plentyn hwnnw mewn llety diogel barhau.
4
Rhaid i’r awdurdod lleol, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, hysbysu pob un o’r rhai y mae’n ofynnol cymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth o dan baragraff (2) ynghylch yr argymhelliad a wnaed o ganlyniad i’r adolygiad, a’r camau, os oes rhai, y mae’r awdurdod yn bwriadu eu cymryd yng ngoleuni’r argymhelliad