Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
4
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod lleol yng Nghymru oni ddynodir i’r gwrthwyneb;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
ystyr “llety diogel” (“secure accommodation”) yw llety yng Nghymru a ddarperir at y diben o gyfyngu ar ryddid plant y mae adran 119 o’r Ddeddf yn gymwys iddynt;
ystyr “ymwelydd annibynnol” (“independent visitor”) yw person a benodir gan awdurdod lleol o dan adran 98 o’r Ddeddf.
5
Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at gofrestru cartref plant, neu at berson a gofrestrir mewn perthynas â chartref plant, yn gyfeiriad at gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.