Gofynion mewn perthynas â lleoliadau mewn llety diogel

Lleoliad mewn cartref plant sydd wedi ei gofrestru8

Ni chaiff awdurdod lleol leoli plentyn mewn llety diogel ac eithrio mewn cartref sydd wedi ei gofrestru fel cartref plant sy’n darparu llety at y diben o gyfyngu ar ryddid7.

Dyletswydd i roi gwybodaeth am leoliad mewn llety diogel9

1

Pan leolir plentyn mewn llety diogel mewn cartref plant a ddarperir gan berson ac eithrio’r awdurdod lleol syn gofalu am y plentyn, rhaid i’r person cofrestredig mewn cysylltiad â’r cartref plant hwnnw roi gwybod i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn, fod y plentyn wedi ei leoli yn y cartref, o fewn 12 awr ar ôl dechreuad y lleoliad.

2

Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn gadarnhau wedyn, wrth y person cofrestredig—

a

ei awdurdodiad i gadw’r plentyn mewn llety diogel;

b

cyfnod yr awdurdodiad; ac

c

manylion unrhyw orchymyn gan lys sy’n awdurdodi’r lleoliad.

Penodi personau i adolygu lleoliadau10

Rhaid i awdurdod lleol sy’n penderfynu lleoli plentyn mewn llety diogel benodi o leiaf 3 pherson i adolygu’r penderfyniad o fewn 15 diwrnod ar ôl dechrau’r lleoliad, ac wedyn fesul ysbaid o ddim mwy na 3 mis tra bo’r lleoliad mewn llety diogel yn parhau.

Adolygiadau o leoliad mewn llety diogel11

1

Rhaid i’r personau a benodir o dan reoliad 10 ystyried, gan roi sylw i les y plentyn a leolwyd, y materion canlynol—

a

a yw’r criteria ar gyfer cadw’r plentyn mewn llety diogel yn parhau’n gymwys;

b

a yw’r lleoliad mewn llety diogel yn parhau’n angenrheidiol, neu a fyddai llety o unrhyw ddisgrifiad arall yn diwallu anghenion y plentyn yn well.

2

Wrth gynnal adolygiad o’r lleoliad, rhaid i’r personau a benodir, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, ganfod a chymryd i ystyriaeth ddymuniadau a theimladau—

a

y plentyn;

b

rhieni’r plentyn;

c

unrhyw berson nad yw’n rhiant y plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano;

d

unrhyw berson arall a fu’n gofalu am y plentyn ac y tybia’r personau a benodwyd y dylid cymryd ei safbwyntiau i ystyriaeth;

e

ymwelydd annibynnol y plentyn, os penodwyd un;

f

y person sy’n rheoli’r llety diogel y lleolir y plentyn ynddo.

3

Rhaid i’r personau a benodir wneud argymhelliad i’r awdurdod lleol ynghylch a ddylai lleoliad y plentyn hwnnw mewn llety diogel barhau.

4

Rhaid i’r awdurdod lleol, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, hysbysu pob un o’r rhai y mae’n ofynnol cymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth o dan baragraff (2) ynghylch yr argymhelliad a wnaed o ganlyniad i’r adolygiad, a’r camau, os oes rhai, y mae’r awdurdod yn bwriadu eu cymryd yng ngoleuni’r argymhelliad

Cofnodion sydd i’w cadw mewn perthynas â phlentyn mewn llety diogel mewn cartref plant12

Pan leolir plentyn mewn llety diogel mewn cartref plant, rhaid i’r personau sydd wedi eu cofrestru mewn cysylltiad â’r cartref gynnal cofnod ar gyfer y plentyn hwnnw, sy’n cynnwys y canlynol—

a

enw, dyddiad geni a rhyw y plentyn;

b

manylion y gorchymyn gofal neu ddarpariaeth statudol arall, yn rhinwedd y cyfryw y lleolwyd y plentyn yn y cartref plant;

c

manylion yr awdurdod lleol sy’n lleoli’r plentyn ac enw’r swyddog awdurdodi;

d

dyddiad ac amser dechrau’r lleoliad mewn llety diogel;

e

y rheswm am y lleoliad;

f

cyfeiriad y man lle’r oedd y plentyn yn byw cyn y lleoliad;

g

enwau a manylion perthnasol y personau a hysbyswyd ynghylch lleoliad y plentyn yn rhinwedd rheoliad 5;

h

manylion unrhyw orchmynion llys a wnaed mewn perthynas â’r plentyn o dan adran119;

i

manylion unrhyw adolygiadau a wnaed o dan reoliad 11;

j

dyddiad ac amser unrhyw gyfnodau pan mae’r plentyn dan glo ar ei ben ei hun mewn unrhyw ystafell ac eithrio yn ei ystafell wely yn ystod amser gwely arferol, enw’r person sy’n awdurdodi gweithredu felly, y rheswm am wneud hynny, a’r dyddiad ac amser y mae’r plentyn yn peidio â bod dan glo yn yr ystafell honno; a

k

dyddiad ac amser rhyddhau’r plentyn o lety diogel a chyfeiriad y plentyn ar ôl ei ryddhau o’r llety diogel.