- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8. Ni chaiff awdurdod lleol leoli plentyn mewn llety diogel ac eithrio mewn cartref sydd wedi ei gofrestru fel cartref plant sy’n darparu llety at y diben o gyfyngu ar ryddid(1).
9.—(1) Pan leolir plentyn mewn llety diogel mewn cartref plant a ddarperir gan berson ac eithrio’r awdurdod lleol syn gofalu am y plentyn, rhaid i’r person cofrestredig mewn cysylltiad â’r cartref plant hwnnw roi gwybod i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn, fod y plentyn wedi ei leoli yn y cartref, o fewn 12 awr ar ôl dechreuad y lleoliad.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn gadarnhau wedyn, wrth y person cofrestredig—
(a)ei awdurdodiad i gadw’r plentyn mewn llety diogel;
(b)cyfnod yr awdurdodiad; ac
(c)manylion unrhyw orchymyn gan lys sy’n awdurdodi’r lleoliad.
10. Rhaid i awdurdod lleol sy’n penderfynu lleoli plentyn mewn llety diogel benodi o leiaf 3 pherson i adolygu’r penderfyniad o fewn 15 diwrnod ar ôl dechrau’r lleoliad, ac wedyn fesul ysbaid o ddim mwy na 3 mis tra bo’r lleoliad mewn llety diogel yn parhau.
11.—(1) Rhaid i’r personau a benodir o dan reoliad 10 ystyried, gan roi sylw i les y plentyn a leolwyd, y materion canlynol—
(a)a yw’r criteria ar gyfer cadw’r plentyn mewn llety diogel yn parhau’n gymwys;
(b)a yw’r lleoliad mewn llety diogel yn parhau’n angenrheidiol, neu a fyddai llety o unrhyw ddisgrifiad arall yn diwallu anghenion y plentyn yn well.
(2) Wrth gynnal adolygiad o’r lleoliad, rhaid i’r personau a benodir, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, ganfod a chymryd i ystyriaeth ddymuniadau a theimladau—
(a)y plentyn;
(b)rhieni’r plentyn;
(c)unrhyw berson nad yw’n rhiant y plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano;
(d)unrhyw berson arall a fu’n gofalu am y plentyn ac y tybia’r personau a benodwyd y dylid cymryd ei safbwyntiau i ystyriaeth;
(e)ymwelydd annibynnol y plentyn, os penodwyd un;
(f)y person sy’n rheoli’r llety diogel y lleolir y plentyn ynddo.
(3) Rhaid i’r personau a benodir wneud argymhelliad i’r awdurdod lleol ynghylch a ddylai lleoliad y plentyn hwnnw mewn llety diogel barhau.
(4) Rhaid i’r awdurdod lleol, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, hysbysu pob un o’r rhai y mae’n ofynnol cymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth o dan baragraff (2) ynghylch yr argymhelliad a wnaed o ganlyniad i’r adolygiad, a’r camau, os oes rhai, y mae’r awdurdod yn bwriadu eu cymryd yng ngoleuni’r argymhelliad
12. Pan leolir plentyn mewn llety diogel mewn cartref plant, rhaid i’r personau sydd wedi eu cofrestru mewn cysylltiad â’r cartref gynnal cofnod ar gyfer y plentyn hwnnw, sy’n cynnwys y canlynol—
(a)enw, dyddiad geni a rhyw y plentyn;
(b)manylion y gorchymyn gofal neu ddarpariaeth statudol arall, yn rhinwedd y cyfryw y lleolwyd y plentyn yn y cartref plant;
(c)manylion yr awdurdod lleol sy’n lleoli’r plentyn ac enw’r swyddog awdurdodi;
(d)dyddiad ac amser dechrau’r lleoliad mewn llety diogel;
(e)y rheswm am y lleoliad;
(f)cyfeiriad y man lle’r oedd y plentyn yn byw cyn y lleoliad;
(g)enwau a manylion perthnasol y personau a hysbyswyd ynghylch lleoliad y plentyn yn rhinwedd rheoliad 5;
(h)manylion unrhyw orchmynion llys a wnaed mewn perthynas â’r plentyn o dan adran119;
(i)manylion unrhyw adolygiadau a wnaed o dan reoliad 11;
(j)dyddiad ac amser unrhyw gyfnodau pan mae’r plentyn dan glo ar ei ben ei hun mewn unrhyw ystafell ac eithrio yn ei ystafell wely yn ystod amser gwely arferol, enw’r person sy’n awdurdodi gweithredu felly, y rheswm am wneud hynny, a’r dyddiad ac amser y mae’r plentyn yn peidio â bod dan glo yn yr ystafell honno; a
(k)dyddiad ac amser rhyddhau’r plentyn o lety diogel a chyfeiriad y plentyn ar ôl ei ryddhau o’r llety diogel.
Gweler adran 4(8)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 sy’n pennu’r mathau o sefydliad y gwneir yn ofynnol eu bod yn cofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: