Awdurdodiad Llys
Ceisiadau i’r llys4
1
Yr awdurdod lleol (gan gynnwys awdurdod lleol yn Lloegr) sy’n gofalu am y plentyn, yn unig, a gaiff wneud ceisiadau i lys o dan adran 119 o’r Ddeddf (yn ddarostyngedig i’r pŵer sydd gan awdurdod lleol i drefnu ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau gan berson arall o dan adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 19724 neu adrannau 14 i 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 20005).
2
Ond pan fo rheoliad 16 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys ac yn addasu adran 119 o’r Ddeddf gan wneud yr adran honno’n gymwys i blant ac eithrio rhai sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, caniateir ceisiadau i lys gan y Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, neu awdurdod lleol sy’n arfer ei swyddogaethau addysg, sydd yn darparu llety i blentyn y mae adran 119 o’r Ddeddf yn gymwys iddo.
Dyletswydd i hysbysu rhieni ac eraill ynghylch bwriad i leoli plentyn mewn llety diogel5
Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu gwneud cais i lys er mwyn lleoli plentyn y mae’r awdurdod yn gofalu amdano mewn llety diogel, rhaid i’r awdurdod, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r canlynol cyn gynted ag y bo modd—
a
rhieni’r plentyn;
b
unrhyw berson nad yw’n rhiant y plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano;
c
ymwelydd annibynnol y plentyn os penodwyd un; a
d
unrhyw berson arall y tybia’r awdurdod lleol y dylid ei hysbysu.
Cyfnodau hwyaf awdurdodiad gan y llys6
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo plentyn wedi ei wneud yn destun cais o dan adran 119 o’r Ddeddf, y cyfnod cychwynnol hwyaf y caiff llys awdurdodi cadw plentyn mewn llety diogel yw tri mis.
2
Pan fo plentyn yn ddarostyngedig i gais i estyn y cyfnod mewn llety diogel o dan adran 119 o’r Ddeddf, y cyfnod pellach hwyaf y caiff llys ei awdurdodi ar unrhyw un adeg yw 6 mis.
Cyfnod hwyaf awdurdodiad ar gyfer plant sydd ar remánd7
1
Y cyfnod hwyaf y caiff llys, o bryd i’w gilydd, awdurdodi cadw plentyn, a roddwyd ar remánd i lety awdurdod lleol o dan adran 91(3) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 6, mewn llety diogel (pa un ai am gyfnod cyntaf ynteu cyfnod ychwanegol) yw cyfnod y remánd.
2
Mae’r cyfeiriad at “awdurdod lleol” ym mharagraff (1) yn cynnwys awdurdod lleol yn Lloegr.