- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Yr awdurdod lleol (gan gynnwys awdurdod lleol yn Lloegr) sy’n gofalu am y plentyn, yn unig, a gaiff wneud ceisiadau i lys o dan adran 119 o’r Ddeddf (yn ddarostyngedig i’r pŵer sydd gan awdurdod lleol i drefnu ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau gan berson arall o dan adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) neu adrannau 14 i 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(2)).
(2) Ond pan fo rheoliad 16 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys ac yn addasu adran 119 o’r Ddeddf gan wneud yr adran honno’n gymwys i blant ac eithrio rhai sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, caniateir ceisiadau i lys gan y Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, neu awdurdod lleol sy’n arfer ei swyddogaethau addysg, sydd yn darparu llety i blentyn y mae adran 119 o’r Ddeddf yn gymwys iddo.
5. Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu gwneud cais i lys er mwyn lleoli plentyn y mae’r awdurdod yn gofalu amdano mewn llety diogel, rhaid i’r awdurdod, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r canlynol cyn gynted ag y bo modd—
(a)rhieni’r plentyn;
(b)unrhyw berson nad yw’n rhiant y plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano;
(c)ymwelydd annibynnol y plentyn os penodwyd un; a
(d)unrhyw berson arall y tybia’r awdurdod lleol y dylid ei hysbysu.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo plentyn wedi ei wneud yn destun cais o dan adran 119 o’r Ddeddf, y cyfnod cychwynnol hwyaf y caiff llys awdurdodi cadw plentyn mewn llety diogel yw tri mis.
(2) Pan fo plentyn yn ddarostyngedig i gais i estyn y cyfnod mewn llety diogel o dan adran 119 o’r Ddeddf, y cyfnod pellach hwyaf y caiff llys ei awdurdodi ar unrhyw un adeg yw 6 mis.
7.—(1) Y cyfnod hwyaf y caiff llys, o bryd i’w gilydd, awdurdodi cadw plentyn, a roddwyd ar remánd i lety awdurdod lleol o dan adran 91(3) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (3), mewn llety diogel (pa un ai am gyfnod cyntaf ynteu cyfnod ychwanegol) yw cyfnod y remánd.
(2) Mae’r cyfeiriad at “awdurdod lleol” ym mharagraff (1) yn cynnwys awdurdod lleol yn Lloegr.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: