NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r ail Orchymyn Cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”).

Mae erthyglau 2 a 3 o’r Gorchymyn yn dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym ar 4 Ionawr 2016:

  • adran 3 (llunio ac adolygu Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru) i’r graddau y mae’n rhoi adrannau newydd 60, 60A a 60B yn lle adran 60 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

  • adran 11 (y Gymraeg);

  • adran 12 (y cyfnod y bydd cynllun datblygu lleol yn cael effaith);

  • adran 13 (tynnu cynllun datblygu lleol yn ôl);

  • adran 14 (pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod cynllun datblygu lleol yn cael ei lunio ar y cyd); ac

  • adran 31 (y Gymraeg).

Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn yn dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym ar 16 Mawrth 2016:

  • adran 15(1) a (2) (byrddau cydgynllunio: swyddogaethau sy’n ymwneud ag arolygon a chynlluniau datblygu lleol);

  • adran 40 (byrddau cydgynllunio i fod yn awdurdodau sylweddau peryglus);

  • adran 41 (pŵer i wneud darpariaeth sy’n galluogi byrddau cydgynllunio i arfer swyddogaethau rheoli datblygu mewn Parciau Cenedlaethol); ac

  • adran 42 (byrddau cydgynllunio: pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol ac atodol).

Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn yn dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym ar 1 Ebrill 2016:

  • adran 2 (datblygu cynaliadwy); ac

  • adran 15(3) (byrddau cydgynllunio: swyddogaethau sy’n ymwneud ag arolygon a chynlluniau datblygu lleol).

Mae erthyglau 6 a 7 o’r Gorchymyn yn nodi’r trefniadau trosiannol ac arbed sy’n gymwys i gychwyn y darpariaethau yn erthyglau 2, 3(a) a 5(a).