2015 Rhif 1987 (Cy. 297) (C. 123)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 58(4) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 20151.

Enwi a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015.

2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 20042;

  • ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 4 Ionawr 2016

2

Y diwrnod penodedig i adran 3 o Ddeddf 2015 ddod i rym i’r graddau y mae’n rhoi adrannau newydd 60, 60A a 60B yn lle adran 60 o Ddeddf 2004 yw 4 Ionawr 2016.

3

Y diwrnod penodedig i’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 ddod i rym i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym yw 4 Ionawr 2016—

a

adran 11;

b

adran 12;

c

adran 13;

d

adran 14; ac

e

adran 31.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 16 Mawrth 20164

Y diwrnod penodedig i’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 ddod i rym i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym yw 16 Mawrth 2016—

a

adran 15(1) a (2);

b

adran 40;

c

adran 41; a

d

adran 42.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 20165

Y diwrnod penodedig i’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 ddod i rym yw 1 Ebrill 2016—

a

adran 2; a

b

adran 15(3).

Darpariaethau trosiannol ac arbed

6

Nid yw adrannau 2 ac 11(3) o Ddeddf 2015 yn gymwys i gynllun datblygu lleol sydd wedi ei gyflwyno i’w archwilio yn unol â Rhan 6 o Ddeddf 2004 pan ddaw’r adrannau i rym. Mae’r adrannau’n gymwys i gynllun o’r fath ar ôl iddo gael ei fabwysiadu neu ei gymeradwyo yn unol â Rhan 6 o Ddeddf 2004.

7

Mae adran 60 o Ddeddf 2004 yn parhau i gael effaith fel pe na bai adran 3 o Ddeddf 2015 wedi ei chychwyn gan erthygl 2.

Carl SargeantY Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r ail Orchymyn Cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”).

Mae erthyglau 2 a 3 o’r Gorchymyn yn dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym ar 4 Ionawr 2016:

  • adran 3 (llunio ac adolygu Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru) i’r graddau y mae’n rhoi adrannau newydd 60, 60A a 60B yn lle adran 60 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

  • adran 11 (y Gymraeg);

  • adran 12 (y cyfnod y bydd cynllun datblygu lleol yn cael effaith);

  • adran 13 (tynnu cynllun datblygu lleol yn ôl);

  • adran 14 (pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod cynllun datblygu lleol yn cael ei lunio ar y cyd); ac

  • adran 31 (y Gymraeg).

Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn yn dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym ar 16 Mawrth 2016:

  • adran 15(1) a (2) (byrddau cydgynllunio: swyddogaethau sy’n ymwneud ag arolygon a chynlluniau datblygu lleol);

  • adran 40 (byrddau cydgynllunio i fod yn awdurdodau sylweddau peryglus);

  • adran 41 (pŵer i wneud darpariaeth sy’n galluogi byrddau cydgynllunio i arfer swyddogaethau rheoli datblygu mewn Parciau Cenedlaethol); ac

  • adran 42 (byrddau cydgynllunio: pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol ac atodol).

Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn yn dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym ar 1 Ebrill 2016:

  • adran 2 (datblygu cynaliadwy); ac

  • adran 15(3) (byrddau cydgynllunio: swyddogaethau sy’n ymwneud ag arolygon a chynlluniau datblygu lleol).

Mae erthyglau 6 a 7 o’r Gorchymyn yn nodi’r trefniadau trosiannol ac arbed sy’n gymwys i gychwyn y darpariaethau yn erthyglau 2, 3(a) a 5(a).

NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaeth

Y dyddiad cychwyn

Rhif O.S.

Adran 4

5 Hydref 2015

O.S. 2015/1736

(Cy. 237)

(C. 106)

Rhan 1 o Atodlen 1

5 Hydref 2015

O.S. 2015/1736

(Cy. 237)

(C. 106)

Gweler adran 58(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod pan gafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ac adran 58(2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.