- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
2 Rhagfyr 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 58(4) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004(2);
ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.
2. Y diwrnod penodedig i adran 3 o Ddeddf 2015 ddod i rym i’r graddau y mae’n rhoi adrannau newydd 60, 60A a 60B yn lle adran 60 o Ddeddf 2004 yw 4 Ionawr 2016.
3. Y diwrnod penodedig i’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 ddod i rym i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym yw 4 Ionawr 2016—
(a)adran 11;
(b)adran 12;
(c)adran 13;
(d)adran 14; ac
(e)adran 31.
4. Y diwrnod penodedig i’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 ddod i rym i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym yw 16 Mawrth 2016—
(a)adran 15(1) a (2);
(b)adran 40;
(c)adran 41; a
(d)adran 42.
5. Y diwrnod penodedig i’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 ddod i rym yw 1 Ebrill 2016—
(a)adran 2; a
(b)adran 15(3).
6. Nid yw adrannau 2 ac 11(3) o Ddeddf 2015 yn gymwys i gynllun datblygu lleol sydd wedi ei gyflwyno i’w archwilio yn unol â Rhan 6 o Ddeddf 2004 pan ddaw’r adrannau i rym. Mae’r adrannau’n gymwys i gynllun o’r fath ar ôl iddo gael ei fabwysiadu neu ei gymeradwyo yn unol â Rhan 6 o Ddeddf 2004.
7. Mae adran 60 o Ddeddf 2004 yn parhau i gael effaith fel pe na bai adran 3 o Ddeddf 2015 wedi ei chychwyn gan erthygl 2.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
2 Rhagfyr 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r ail Orchymyn Cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”).
Mae erthyglau 2 a 3 o’r Gorchymyn yn dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym ar 4 Ionawr 2016:
adran 3 (llunio ac adolygu Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru) i’r graddau y mae’n rhoi adrannau newydd 60, 60A a 60B yn lle adran 60 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;
adran 11 (y Gymraeg);
adran 12 (y cyfnod y bydd cynllun datblygu lleol yn cael effaith);
adran 13 (tynnu cynllun datblygu lleol yn ôl);
adran 14 (pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod cynllun datblygu lleol yn cael ei lunio ar y cyd); ac
adran 31 (y Gymraeg).
Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn yn dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym ar 16 Mawrth 2016:
adran 15(1) a (2) (byrddau cydgynllunio: swyddogaethau sy’n ymwneud ag arolygon a chynlluniau datblygu lleol);
adran 40 (byrddau cydgynllunio i fod yn awdurdodau sylweddau peryglus);
adran 41 (pŵer i wneud darpariaeth sy’n galluogi byrddau cydgynllunio i arfer swyddogaethau rheoli datblygu mewn Parciau Cenedlaethol); ac
adran 42 (byrddau cydgynllunio: pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol ac atodol).
Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn yn dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym ar 1 Ebrill 2016:
adran 2 (datblygu cynaliadwy); ac
adran 15(3) (byrddau cydgynllunio: swyddogaethau sy’n ymwneud ag arolygon a chynlluniau datblygu lleol).
Mae erthyglau 6 a 7 o’r Gorchymyn yn nodi’r trefniadau trosiannol ac arbed sy’n gymwys i gychwyn y darpariaethau yn erthyglau 2, 3(a) a 5(a).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
| Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
| Adran 4 | 5 Hydref 2015 | (Cy. 237) (C. 106) |
| Rhan 1 o Atodlen 1 | 5 Hydref 2015 | (Cy. 237) (C. 106) |
Gweler adran 58(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod pan gafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ac adran 58(2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: