2015 Rhif 195 (Cy. 10)
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12, 36 a 47(1) a (2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 20141 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2015.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Mae’r rheoliadau a nodir yn Atodlen 1 wedi eu dirymu.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 9 o Ddeddf 2014; ac ystyr “cofrestru” (“registration”) yw cofrestru yn y Gofrestr;
ystyr “cyflogwr” (“employer”) yw person sy’n cyflogi person cofrestredig i ddarparu gwasanaethau perthnasol neu’n ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol;
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;
ystyr “dyddiad hysbysu” (“notification date”) yw’r dyddiad yr hysbysir cyflogwr amdano gan y Cyngor fel y dyddiad y daw’r ffi yn daladwy; ac
ystyr “ffi” (“fee”) yw unrhyw ffi sy’n daladwy yn rhinwedd adran 12 o Ddeddf 2014.
Swm y ffi gofrestru sy’n daladwy3
1
Y ffioedd sy’n daladwy ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2015 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2016 yw—
a
£45 i athrawon ysgol; a
b
£45 i athrawon addysg bellach.
2
Mae swm a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro i’w dalu tuag at y ffioedd sy’n daladwy yn unol â pharagraff (1).
3
Rhaid i swm unrhyw gymhorthdal a bennir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (2) gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
4
Caiff y Cyngor wneud darpariaeth—
a
i godi ac adennill ffioedd a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â—
i
ceisiadau i gofrestru neu i ailosod cofnodion yn y Gofrestr; a
ii
cadw cofnodion yn y Gofrestr; a
b
fel bod eithriadau ac esemptiadau pan na chodir ffioedd.
Yr wybodaeth sydd i’w chyflenwi gan gyflogwr i’r Cyngor ar gais4
Os gwneir cais gan y Cyngor, rhaid i gyflogwr roi’r manylion a bennir yn Atodlen 2 iddo am unrhyw berson a gyflogir gan y cyflogwr hwnnw ar ddyddiad a bennir gan y Cyngor ac y mae’n ofynnol iddo gael ei gofrestru yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014.
Didynnu ffi5
1
Rhaid i gyflogwr person y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o’r cyflog a delir i’r person hwnnw yn union ar ôl y dyddiad hysbysu.
2
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson y mae’r cyflogwr wedi cael hysbysiad (“hysbysiad talu”) gan y Cyngor mewn cysylltiad ag ef, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o gyflog y person hwnnw.
3
Rhaid i hysbysiad talu bennu’r swm sydd i’w ddidynnu o’r cyflog gan ystyried swm y cymhorthdal a bennir yn unol â rheoliad 3(2).
4
Dim ond os yw’r Cyngor wedi ei fodloni nad yw’r person y dyroddir yr hysbysiad mewn cysylltiad ag ef eisoes wedi talu’r ffi ar y dyddiad hysbysu ac—
a
bod y person wedi ei gofrestru yn y Gofrestr, neu
b
ei bod yn ofynnol i’r person gael ei gofrestru felly yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014,
y caniateir i hysbysiad talu gael ei ddyroddi i gyflogwr.
Talu ffioedd i’r Cyngor6
Rhaid i’r cyflogwr, o fewn 14 diwrnod i’r ffi gael ei didynnu yn unol â rheoliad 5 dalu’r ffi honno i’r Cyngor.
Yr wybodaeth sydd i’w chyflenwi i’r Cyngor gan y cyflogwr gyda’r ffi7
Wrth dalu’r ffi, rhaid i’r cyflogwr roi i’r Cyngor y manylion a bennir yn Atodlen 2 am y person y telir y ffi mewn perthynas ag ef.
Methu â chyflawni dyletswydd8
Os nad yw person yn cyflawni dyletswydd o fewn terfyn amser a bennir yn y Rheoliadau hyn, nid yw hynny’n rhyddhau’r person hwnnw o’r ddyletswydd honno.
ATODLEN 1Y RHEOLIADAU A DDIRYMIR
Y rheoliadau a ddirymir | Cyfeiriadau | Graddau’r dirymu |
|---|---|---|
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 | (Cy. 140) | Rheoliad 9 |
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002 | Yn llawn |
ATODLEN 2YR WYBODAETH SYDD I’W CHYFLENWI I’R CYNGOR
1
Enw llawn y person.
2
Os yw’n hysbys, unrhyw enw a fu gan y person gynt.
3
Pa un yw’r person yn wryw neu’n fenyw.
4
Y rhif cofrestru swyddogol, os oes un, a neilltuwyd i’r person.
5
Enw’r ysgol neu’r sefydliad y mae’r person yn cael ei gyflogi ynddo.
6
Rhif yswiriant gwladol y person.
7
Cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt arall y person.
8
Dyddiad geni’r person.
9
Rhif ffôn a chyfeiriad post electronig y person (os ydynt ar gael).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)