
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Diwygiadau i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009
3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “cynefin naturiol” (“natural habitat”) yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)cynefinoedd rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC ar warchod adar gwyllt(), neu yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno, neu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt();”;
(b)ar gyfer y diffiniad o “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) rhodder—
“ystyr “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) yw rhywogaethau o fath a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC neu a restrir yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno neu Atodiadau II a IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC;”
Back to top