Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2015
Enwi a chychwyn
1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2015.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Rhagfyr 2015.
Diwygiadau i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009
2.
Mae Rheoliadau Difrod (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 5.
3.
Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a)
(b)
“ystyr “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) yw rhywogaethau o fath a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC neu a restrir yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno neu Atodiadau II a IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC;”
4.
“Awdurdodiad pendant5.
Nid yw difrod i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol, a difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, yn cynnwys difrod a achoswyd gan weithred a awdurdodwyd yn bendant gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 19817 neu Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 20108.”
5.
Yn Atodlen 2 (Gweithgareddau sy’n achosi difrod)—
(a)
“Gweithredu gweithfeydd a ganiateir2.
Gweithredu gweithfeydd sy’n ddarostyngedig i drwydded yn unol â Chyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch allyriadau diwydiannol (dulliau integredig o atal a rheoli llygredd)9.”
(b)
ym mharagraff 3(2) (Gweithrediadau rheoli gwastraff) yn lle’r geiriau “Gyfarwyddeb 2000/76/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylosgi gwastraff” rhodder “Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol (dulliau integredig o atal a rheoli llygredd).”;
(c)
(d)
(e)
“Cludiant8.
Cludo ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffyrdd mewndirol, ar y môr neu drwy’r awyr nwyddau peryglus; neu nwyddau llygru fel y’u diffinnir yn—
(a)
Cyfarwyddeb 2002/59/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar sefydlu system fonitro traffig a gwybodaeth llestrau Cymunedol12; a(b)
Cyfarwyddeb 2008/68/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gludo nwyddau peryglus ar y tir13
(f)
“11.Gweithredu safleoedd storio carbon deuocsid
Gweithredu safleoedd storio carbon deuocsid yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar storio daearegol o garbon deuocsid14.”
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”) sy’n parhau i weithredu Cyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol o ran atal ac adfer difrod amgylcheddol.
Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniadau “cynefin naturiol (“natural habitat”) a “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) i adlewyrchu’r ffaith bod Cyfarwyddeb 2009/147/EC yn cydgrynhoi ac yn disodli Cyfarwyddeb 79/407/EEC.
Mae rheoliad 4 yn diwygio paragraff 5 o Atodlen 1 i Reoliadau 2009 i ddiweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y gellir awdurdodi gwneud difrod i rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiol, a difrod ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, o dani.
Mae rheoliad 5 yn diweddaru’r rhestr o ddeddfwriaeth yr UE yn Atodlen 2 i Reoliadau 2009, sy’n cyfeirio at y gweithgareddau a fydd yn denu atebolrwydd caeth. Nid effeithir ar natur y gweithgareddau yn y rhestr.
Mae cyfeiriadau at holl ddeddfwriaeth yr UE, ac eithrio Cyfarwyddeb 2004/35/EC yn gyfeiriadau at ddeddfwriaeth fel y’i diwygir o dro i dro.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.