Search Legislation

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1937 (Cy. 291)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2015

Gwnaed

24 Tachwedd 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Tachwedd 2015

Yn dod i rym

18 Rhagfyr 2015

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”)(2) mewn perthynas ag atal ac adfer difrod amgylcheddol ac maent yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno fel y’i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno(3).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”)(4). Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno. At ddibenion Rheoliadau 2009 fel y maent yn cael effaith fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i offerynnau’r UE y cyfeirir atynt yn Rheoliadau 2009 gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o dro i dro.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Rhagfyr 2015.

Diwygiadau i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

2.  Mae Rheoliadau Difrod (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 5.

3.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “cynefin naturiol” (“natural habitat”) yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)cynefinoedd rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC ar warchod adar gwyllt(5), neu yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno, neu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(6);;

(b)ar gyfer y diffiniad o “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) rhodder—

ystyr “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) yw rhywogaethau o fath a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC neu a restrir yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno neu Atodiadau II a IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC;

4.  Yn Atodlen 1 (Difrod i rywogaethau a warchodir, cynefinoedd naturiol a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig), yn lle paragraff 5 rhodder—

Awdurdodiad pendant

5.  Nid yw difrod i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol, a difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, yn cynnwys difrod a achoswyd gan weithred a awdurdodwyd yn bendant gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(7) neu Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(8).

5.  Yn Atodlen 2 (Gweithgareddau sy’n achosi difrod)—

(a)yn lle paragraff 2 (Gweithredu gweithfeydd a ganiateir) rhodder—

Gweithredu gweithfeydd a ganiateir

2.  Gweithredu gweithfeydd sy’n ddarostyngedig i drwydded yn unol â Chyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch allyriadau diwydiannol (dulliau integredig o atal a rheoli llygredd)(9).

(b)ym mharagraff 3(2) (Gweithrediadau rheoli gwastraff) yn lle’r geiriau “Gyfarwyddeb 2000/76/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylosgi gwastraff” rhodder “Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol (dulliau integredig o atal a rheoli llygredd).”;

(c)ym mharagraff 5(2) (Gollyngiadau y mae’n ofynnol cael awdurdodiad ar eu cyfer) ar ôl y gair “penodol” mewnosoder “neu Gyfarwyddeb 2006/118/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddiogelu dŵr daear rhag llygredd a dirywiad(10)”;

(d)(ch) ym mharagraff 7(ch) (Sylweddau peryglus, cynhyrchion diogelu planhigion a chynhyrchion bywleiddiol) ar ôl y gair “farchnad”, mewnosoder “neu fel y’u diffinir yn Erthygl 3(1)(a) o Reoliad Rhif 528/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rhoi cynhyrchion bywleiddiol ar gael ar y farchnad a’r defnydd ohonynt(11)”.

(e)yn lle paragraff 8 rhodder—

Cludiant

8.  Cludo ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffyrdd mewndirol, ar y môr neu drwy’r awyr nwyddau peryglus; neu nwyddau llygru fel y’u diffinnir yn—

(a)Cyfarwyddeb 2002/59/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar sefydlu system fonitro traffig a gwybodaeth llestrau Cymunedol(12); a

(b)Cyfarwyddeb 2008/68/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gludo nwyddau peryglus ar y tir(13).

(f)Yn Atodlen 2 ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

11.    Gweithredu safleoedd storio carbon deuocsid

Gweithredu safleoedd storio carbon deuocsid yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar storio daearegol o garbon deuocsid(14).

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

24 Tachwedd 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”) sy’n parhau i weithredu Cyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol o ran atal ac adfer difrod amgylcheddol.

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniadau “cynefin naturiol (“natural habitat”) a “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) i adlewyrchu’r ffaith bod Cyfarwyddeb 2009/147/EC yn cydgrynhoi ac yn disodli Cyfarwyddeb 79/407/EEC.

Mae rheoliad 4 yn diwygio paragraff 5 o Atodlen 1 i Reoliadau 2009 i ddiweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y gellir awdurdodi gwneud difrod i rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiol, a difrod ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, o dani.

Mae rheoliad 5 yn diweddaru’r rhestr o ddeddfwriaeth yr UE yn Atodlen 2 i Reoliadau 2009, sy’n cyfeirio at y gweithgareddau a fydd yn denu atebolrwydd caeth. Nid effeithir ar natur y gweithgareddau yn y rhestr.

Mae cyfeiriadau at holl ddeddfwriaeth yr UE, ac eithrio Cyfarwyddeb 2004/35/EC yn gyfeiriadau at ddeddfwriaeth fel y’i diwygir o dro i dro.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

1972 p.68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7).

(3)

Mewnosodwyd paragraff 1A yn Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2007/1388.

(4)

O.S. 2009/995 (Cy. 81); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2011/556, 2011/971 (Cy. 141), 2012/630, 2013/755 (Cy. 90) a 2015/1394 (Cy. 138). Offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r dibenion hyn yw O.S. 2011/1043 ac O.S. 2011/2131.

(5)

OJ Rhif L 20, 26.01.2010, t.7; diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17/EU (OJ Rhif L 158, 10.06.2013, t.193).

(6)

OJ Rhif L 206, 22.07.1992, t.7; diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17/EU (OJ Rhif L 158, 10.06.2013, t.193).

(9)

OJ Rhif L 334, 17.12.2010, t.17.

(10)

OJ Rhif L 372, 27.12.2006, t.19, diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/80/EU (OJ Rhif L 182, 21.6.2014, t.52).

(11)

OJ Rhif L 167, 27.6.2012, t.1; diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (UE) Rhif 334/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 103, 5.4.2014, t.22).

(12)

OJ Rhif L 208, 5.8.2002, t.10; diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/100/EU (OJ Rhif L 308, 29.10.2014, t.82).

(13)

OJ Rhif L 260, 30.9.2008, t.13; diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2015/974/EU (OJ Rhif L 157/53, 17.6.2015, t.53).

(14)

OJ Rhif L 140, 5.6.2009, t.114; diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 26, 28.1.2012, t.1).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources