Offerynnau Statudol Cymru
2015 Rhif 1920 (Cy. 286)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015
Gwnaed
18 Tachwedd 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Tachwedd 2015
Yn dod i rym
6 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 191(7) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “achos o ddirwyn i ben yn wirfoddol gan yr aelodau” (“a members’ voluntary winding up”) yw dirwyn busnes i ben pan fo datganiad statudol wedi ei wneud o dan adran 89 o Ddeddf 1986 neu erthygl 75 o Orchymyn 1989(2);
ystyr “darparwr” (“a provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(3) mewn cysylltiad â sefydliad neu asiantaeth;
ystyr “Deddf 1986” (“the 1986 Act”) yw Deddf Ansolfedd 1986(4);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
ystyr “Gorchymyn 1989” (“the 1989 Order”) yw Gorchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989(5);
ystyr “y swm perthnasol” (“the relevant amount”) yw’r swm a bennir yn adran 123(1)(a) o Ddeddf 1986 (diffiniad o fethiant â thalu dyledion).
Methiant busnes
2.—(1) At ddibenion adrannau 189 a 191 o’r Ddeddf—
(a)mae i fethiant busnes yr ystyr a roddir ym mharagraffau (2) i (5); a
(b)mae darparwr i’w drin fel pe bai’n methu â rhedeg sefydliad neu ei reoli neu’n methu â rhedeg asiantaeth neu ei rheoli oherwydd methiant busnes os yw methiant y darparwr â gwneud hynny yn dilyn methiant busnes.
(2) Pan na fo darparwr yn unigolyn, mae methiant busnes yn golygu, mewn cysylltiad â’r darparwr hwnnw—
(a)bod penodi gweinyddwr (o fewn yr ystyr a roddir i “administrator” gan baragraff 1(1) o Atodlen B1 i Ddeddf 1986(6) neu baragraff 2(1) o Atodlen B1 i Orchymyn 1989(7)) yn cymryd effaith;
(b)bod derbynnydd yn cael ei benodi;
(c)bod derbynnydd gweinyddol fel y diffinnir “administrative receiver” yn adran 251 o Ddeddf 1986 neu erthygl 5 o Orchymyn 1989 yn cael ei benodi;
(d)bod penderfyniad i ddirwyn busnes i ben yn wirfoddol yn cael ei basio ac eithrio mewn achos o ddirwyn i ben yn wirfoddol gan yr aelodau;
(e)bod gorchymyn dirwyn i ben yn cael ei wneud;
(f)bod gorchymyn yn rhinwedd erthygl 11 o Orchymyn Partneriaethau Ansolfent 1994 (deiseb methdalu ar y cyd gan aelodau unigol o bartneriaeth ansolfent)(8) yn cael ei wneud;
(g)bod gorchymyn yn rhinwedd erthygl 11 o Orchymyn Partneriaethau Ansolfent (Gogledd Iwerddon) 1995 (deiseb methdalu ar y cyd gan aelodau unigol o bartneriaeth ansolfent)(9) yn cael ei wneud;
(h)bod ymddiriedolwyr elusen y darparwr yn methu â thalu eu dyledion wrth iddynt ddod yn ddyledus;
(i)bod pob aelod o’r bartneriaeth (mewn achos pan fo’r darparwr yn bartneriaeth) yn cael ei wneud yn fethdalwr; neu
(j)bod trefniant gwirfoddol sydd wedi ei gynnig at ddibenion Rhan I o Ddeddf 1986(10) neu Ran 2 o Orchymyn 1989 wedi ei gymeradwyo o dan y Rhan honno o’r Ddeddf honno neu’r Gorchymyn hwnnw.
(3) Mewn perthynas â darparwr sy’n unigolyn, mae methiant busnes yn golygu—
(a)bod yr unigolyn yn cael ei wneud yn fethdalwr;
(b)bod yr unigolyn yn cynnig trefniant gwirfoddol yn unol â Rhan 8 o Ddeddf 1986 neu Ran 8 o Orchymyn 1989 neu’n ymrwymo i drefniant o’r fath; neu
(c)bod gorchymyn rhyddhau o ddyled yn cael ei wneud o dan Ran VIIA o Ddeddf 1986 neu Ran 7A o Orchymyn 1989(11).
(4) At ddibenion paragraff (2)(h), mae person yn ymddiriedolwr elusen darparwr—
(a)os yw’r darparwr yn elusen sy’n anghorfforedig; a
(b)os yw’r person yn un o ymddiriedolwyr yr elusen honno.
(5) At ddibenion paragraff (2)(h), mae ymddiriedolwyr elusen darparwr i’w trin fel pe baent yn methu â thalu eu dyledion wrth iddynt ddod yn ddyledus—
(a)os yw credydwr y mae ar yr ymddiriedolwyr iddynt swm sy’n fwy na’r swm perthnasol a oedd yn ddyledus bryd hynny wedi cyflwyno i’r ymddiriedolwyr archiad ysgrifenedig sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r ymddiriedolwyr dalu’r swm sy’n ddyledus felly a bod yr ymddiriedolwyr, am 3 wythnos wedi hynny, wedi peidio â thalu’r swm neu ei sicrhau neu gyfamodi i’w dalu er boddhad rhesymol y credydwr;
(b)yng Nghymru a Lloegr, os yw darafaeliad neu broses arall a ddyroddir ar ddyfarniad, archddyfarniad neu orchymyn llys o blaid un o gredydwyr yr ymddiriedolwyr heb ei bodloni yn gyfan gwbl neu’n rhannol;
(c)yn yr Alban, os yw induciae archiad am daliad ar archddyfarniad cryno, neu fond cofrestredig cryno, neu brotest cofrestredig cryno, wedi dod i ben heb i daliad gael ei wneud; neu
(d)yng Ngogledd Iwerddon, os yw tystysgrif anorfodadwyedd wedi ei rhoi mewn cysylltiad â dyfarniad yn erbyn yr ymddiriedolwyr.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adrannau 189 i 191 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) yn gosod dyletswyddau (“dyletswyddau dros dro”) ar awdurdodau lleol yng Nghymru i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolion, neu anghenion gofalwyr am gymorth, o dan amgylchiadau pan fo darparwyr cofrestredig gofal yn methu â pharhau i weithredu oherwydd “methiant busnes”.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r dehongliad, at y dibenion hynny, o “methiant busnes” ac ynglŷn â’r amgylchiadau pan fo person i’w drin fel pe bai’n methu â gwneud rhywbeth oherwydd “methiant busnes”.
Mae rheoliad 2 yn nodi’r digwyddiadau sy’n gyfystyr â “methiant busnes” at ddibenion y dyletswyddau dros dro ar awdurdodau lleol yng Nghymru.
Mewn perthynas â darparwr, nad yw’n unigolyn, sydd wedi ei gofrestru yng Nghymru, mae methiant busnes yn cynnwys—
penodi gweinyddwr;
penodi derbynnydd;
penodi derbynnydd gweinyddol;
pasio penderfyniad i ddirwyn busnes i ben yn wirfoddol mewn achos o ddirwyn i ben yn wirfoddol gan y credydwyr;
gwneud gorchymyn dirwyn i ben;
gwneud gorchmynion methdalu pan fo aelodau unigol o bartneriaeth yn cyflwyno deiseb methdalu ar y cyd;
mewn perthynas ag elusen anghorfforedig, ymddiriedolwyr yr elusen yn methu â thalu eu dyledion wrth iddynt ddod yn ddyledus;
pob aelod o bartneriaeth yn cael ei wneud yn fethdalwr; neu
trefniant gwirfoddol yn cael ei gymeradwyo o dan Ddeddf Ansolfedd 1986 (“Deddf 1986”) neu Orchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989 (“Gorchymyn 1989”).
Mewn perthynas â darparwr sy’n unigolyn sydd wedi ei gofrestru yng Nghymru, mae “methiant busnes” yn cynnwys yr unigolyn yn cael ei wneud yn fethdalwr neu’n cynnig trefniant gwirfoddol unigol neu’n ymrwymo i drefniant o’r fath o dan Ran 8 o Ddeddf 1986 neu Ran 8 o Orchymyn 1989, neu fod yr unigolyn yn destun gorchymyn rhyddhau o ddyled o dan Ran VIIA o Ddeddf 1986 neu Ran 7A o Orchymyn 1989.
O dan y Ddeddf, mae’r dyletswyddau dros dro yn cael eu sbarduno pan fo darparwr cofrestredig yn methu â rhedeg sefydliad neu ei reoli neu’n methu â rhedeg asiantaeth neu ei rheoli oherwydd methiant busnes. Mae rheoliad 2(1)(b) yn darparu bod darparwr i’w drin fel pe bai’n methu â rhedeg sefydliad neu ei reoli neu’n methu â rhedeg asiantaeth neu ei rheoli oherwydd methiant busnes os yw methiant y darparwr â gwneud hynny yn dilyn methiant busnes.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Gweler O.S. 2001/1090 a 2012/3013 o ran cymhwyso adran 89 i Bartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Sefydliadau Elusennol Corfforedig yn ôl eu trefn. O ran cymhwyso adran 89 i gwmnïau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol, gweler adran 123 o Ddeddf Cwmnïau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 (p. 14). O ran cymhwyso erthygl 75 o Orchymyn 1989 i gymdeithasau diwydiannol a darbodus yng Ngogledd Iwerddon, gweler adran 64 o Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus (Gogledd Iwerddon) 1969 (p. 24), fel y’i hamnewidiwyd gan O.S. 2009/1941.
Mewnosodwyd Atodlen B1 gan adran 248(2) o Ddeddf Menter 2002 (p. 40), ac Atodlen 16 iddi. O ran cymhwyso Rhan 2 o Ddeddf 1986 i gwmnïau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol, gweler O.S. 2014/229 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2014/1822.
Mewnosodwyd Atodlen B1 gan O.S. 2005/1455 (G.I. 10).
Rh.St. (G.I.) 1995 Rhif 225.
O ran cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf 1986 i gwmnïau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol, gweler O.S. 2014/229 fel y’i diwygiwyd gan O.S.
Mewnosodwyd Rhan 7A o Orchymyn 1989 gan Ddeddf Rhyddhau o Ddyled (Gogledd Iwerddon) 2010 (p. 16).
