Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2015

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1905 (Cy. 277)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2015

Gwnaed

11 Tachwedd 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Tachwedd 2015

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi(1).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2015 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2015.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(2).

Diwygio Rheoliadau 1992

2.—(1Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2016 neu ar ôl hynny.

(2Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

11 Tachwedd 2015

Rheoliad 2

YR ATODLEN

SCHEDULE 4

ADULT POPULATION FIGURES

Billing authority areaPrescribed figure
Blaenau Gwent55,722
Bridgend112,178
Caerphilly141,099
Cardiff281,207
Carmarthenshire147,829
Ceredigion62,875
Conwy94,564
Denbighshire75,337
Flintshire121,644
Gwynedd98,583
Isle of Anglesey56,533
Merthyr Tydfil46,587
Monmouthshire74,234
Neath Port Talbot112,590
Newport113,566
Pembrokeshire99,000
Powys107,516
Rhondda Cynon Taf186,911
Swansea194,267
Torfaen72,248
Vale of Glamorgan100,662
Wrexham107,275

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae’n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) yn lle’r un bresennol.