- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gwnaed
11 Tachwedd 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Tachwedd 2015
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2015 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(2).
2.—(1) Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2016 neu ar ôl hynny.
(2) Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
11 Tachwedd 2015
Rheoliad 2
| Billing authority area | Prescribed figure |
|---|---|
| Blaenau Gwent | 55,722 |
| Bridgend | 112,178 |
| Caerphilly | 141,099 |
| Cardiff | 281,207 |
| Carmarthenshire | 147,829 |
| Ceredigion | 62,875 |
| Conwy | 94,564 |
| Denbighshire | 75,337 |
| Flintshire | 121,644 |
| Gwynedd | 98,583 |
| Isle of Anglesey | 56,533 |
| Merthyr Tydfil | 46,587 |
| Monmouthshire | 74,234 |
| Neath Port Talbot | 112,590 |
| Newport | 113,566 |
| Pembrokeshire | 99,000 |
| Powys | 107,516 |
| Rhondda Cynon Taf | 186,911 |
| Swansea | 194,267 |
| Torfaen | 72,248 |
| Vale of Glamorgan | 100,662 |
| Wrexham | 107,275” |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae’n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) yn lle’r un bresennol.
1988 c. 41. Diwygiwyd adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p. 41), a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi, gan adran 5 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) a Rhan I o Atodlen 3 iddi.
O.S. 1992/3238 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (Cy. 47), 2000/3382 (Cy. 220), 2001/3910 (Cy. 322), 2002/3054 (Cy. 289), 2003/3211 (Cy. 304), 2004/3232 (Cy. 280), 2005/3345 (Cy. 259), 2006/3347 (Cy. 307), 2007/3343 (Cy. 295), 2008/2929 (Cy. 258), 2009/3147 (Cy. 274), 2010/2889 (Cy. 239), 2011/2610 (Cy. 283), 2012/3036 (Cy. 310), 2013/3046 (Cy. 305) a 2014/3193 (Cy. 323).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: