Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau’r taliadau colli cartref sy’n daladwy o dan Ddeddf Digollediad Tir 1973 (“y Ddeddf”) i’r rhai sydd â buddiant perchennog mewn annedd. Mae’r Rheoliadau hyn yn cynyddu hefyd swm y taliad colli cartref sy’n daladwy mewn unrhyw achos arall.
Mae hawl gan berson a ddadleolir o annedd drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o’r Ddeddf i gael taliad colli cartref. Cafodd y sail bresennol ar gyfer asesu swm y taliad colli cartref ei sefydlu drwy ddiwygiadau a wnaed i’r Ddeddf a geir yn Neddf Cynllunio a Digolledu 1991.
Mewn achosion pan fo gan berson sy’n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, mae adran 30(1) o’r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny’n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.
Mae adran 30(2) o’r Ddeddf yn rhagnodi swm y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.
Mae rheoliad 2(a) o’r Rheoliadau hyn yn cynyddu’r uchafswm sy’n daladwy o dan adran 30(1) o’r Ddeddf o £47,000 i £53,000 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu’r isafswm o £4,700 i £5,300. Mae rheoliad 2(c) yn cynyddu’r taliad colli cartref sy’n daladwy, o dan adran 30(2) o’r Ddeddf, mewn unrhyw achos arall o £4,700 i £5,300.
Dim ond uchafsymiau ac isafsymiau’r taliadau colli cartref sydd wedi eu newid ac nid oes unrhyw newid yn y ganran sy’n daladwy o werth ar y farchnad buddiant y person sydd wedi ei ddadleoli yn yr annedd.
Mae’r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo’r dadleoli’n digwydd ar 10 Rhagfyr 2015 neu ar ôl hynny.
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2008 yn parhau i gael effaith o ran dadleoli sy’n digwydd cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym ond ar wahân i hynny maent yn cael eu dirymu.