xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2CODI FFIOEDD O DAN RAN 5 O’R DDEDDF

Dyfarniadau ynghylch codi ffioedd

5.  Pan fo awdurdod lleol yn tybio y byddai’n gosod ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf ac wedi cynnal asesiad ariannol o A yn unol â gofynion y Rheoliadau Asesiad Ariannol, rhaid iddo wneud dyfarniad ynglŷn â pha swm, os oes unrhyw swm, y mae’n rhesymol ymarferol i A ei dalu yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.