Gweithdrefn ar gyfer dyfarnu swm cyfraniad neu ad-daliad mewn perthynas â thaliad uniongyrchol am ofal a chymorth amhreswyl
23.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â dyfarnu lefel y cyfraniad neu’r ad-daliad y mae’n ofynnol i B ei wneud, neu y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod B yn ei wneud, mewn cysylltiad â thaliadau uniongyrchol am ofal a chymorth amhreswyl.
(2) Wrth gyfrifo’r swm y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod B yn ei gyfrannu ar ffurf cyfraniad neu ad-daliad, rhaid i awdurdod lleol fabwysiadu’r weithdrefn a nodir ym mharagraff (3).
(3) Rhaid i awdurdod lleol—
(a)cyfrifo cost resymol sicrhau’r ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer B;
(b)diystyru o’r cyfanswm hwnnw—
(i)swm cyfwerth â’r ffi unffurf mewn cysylltiad â’r gwasanaethau hynny y codir ffi unffurf amdanynt yn unol â rheoliad 22(2); a
(ii)unrhyw swm a dalwyd am bryniant cyfarpar a fyddai, fel arall, yn cael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol;
(c)cymhwyso’r uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol ar gyfer gofal a chymorth amhreswyl, os byddai’r canlyniad, fel arall, yn fwy na’r uchafswm;
(d)mewn perthynas â’r swm a gyfrifwyd yn unol â’r rheoliad hwn, dyfarnu’r hyn y byddai’n rhesymol ymarferol i’r person ei gyfrannu ar ffurf cyfraniad neu ad-daliad yn unol â rheoliadau 26 (terfyn cyfalaf) a 27 (isafswm incwm ar gyfer person a chanddo anghenion am ofal a chymorth amhreswyl).