RHAN 4CYFRANIADAU AC AD-DALIADAU AM DALIADAU UNIONGYRCHOL

Uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl22

1

Ac eithrio pan fo’r gofal a chymorth y gwneir taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â hwy yn ddarpariaeth o ofal a llety mewn cartref gofal, ac yn ddarostyngedig i baragraff (2) o’r rheoliad hwn, ni chaiff awdurdod lleol ddyfarnu ei bod yn rhesymol ymarferol i B wneud cyfraniad neu ad-daliad o fwy na £60 yr wythnos tuag at gost y gofal a chymorth.

2

Wrth gyfrifo’r uchafswm rhesymol y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod B yn ei dalu, o ran awdurdod lleol—

a

rhaid iddo ddiystyru’r gost o sicrhau unrhyw ofal a chymorth y mae’n gosod ffi unffurf amdanynt, a

b

caiff osod y ffioedd mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaeth yn ychwanegol at yr uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol.

3

Pan fo B yn cael taliad uniongyrchol i’w alluogi i brynu cyfarpar, a fyddai fel arall yn cael ei ddarparu gan awdurdod lleol, o ran yr awdurdod lleol—

a

rhaid iddo ddiystyru’r gost o’r cyfarpar wrth gyfrifo’r uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod B yn ei dalu, a

b

caiff ei gwneud yn ofynnol bod B yn talu swm yn ychwanegol at yr uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol tuag at y gost o sicrhau’r cyfarpar.