RHAN 4CYFRANIADAU AC AD-DALIADAU AM DALIADAU UNIONGYRCHOL
Personau na chaniateir ei gwneud yn ofynnol eu bod yn gwneud cyfraniad neu ad-daliad18
1
Ni chaiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol bod B yn gwneud cyfraniad nac ychwaith osod amod ar gyfer ad-daliad mewn perthynas â B pan fo B—
a
yn dioddef o unrhyw ffurf o glefyd Creutzfeldt-Jakob, a diagnosis clinigol o’r clefyd hwnnw wedi ei roi gan ymarferydd meddygol cofrestredig17; neu
b
wedi cael cynnig neu’n cael gwasanaeth a ddarperir fel rhan o becyn o wasanaethau ôl-ofal yn unol ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal).
2
Ni chaiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol gwneud cyfraniad nac ychwaith osod amod ar gyfer ad-daliad mewn perthynas â pherson y diwellir ei anghenion am ofal a chymorth gan awdurdod lleol yn unol â dyletswydd neu bŵer a roddir gan y Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol yn rhinwedd adran 51 o’r Ddeddf.