Datganiad o ddyfarniad
14.—(1) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad yn unol â’r Rheoliadau hyn ynglŷn â’r swm y mae’n rhesymol ymarferol i A ei dalu am ofal a chymorth—
(a)a gynigir i A am y tro cyntaf; neu
(b)sy’n cael ei ddarparu i A eisoes ond y gosodir ffi amdano am y tro cyntaf,
rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu datganiad i A, sy’n nodi’r taliad y mae’n rhaid i A ei wneud.
(2) Ni chaiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol bod ffi yn cael ei thalu tan y dyddiad yr anfonir y datganiad at A.
(3) Ond unwaith y bydd datganiad wedi ei ddyroddi caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol bod A yn talu ffi am ofal a chymorth a ddarparwyd neu a drefnwyd cyn dyddiad y datganiad(1).
Mae adran 66(9) o’r Ddeddf yn darparu’r pŵer i reoliadau ddarparu bod dyfarniad yn cael effaith o ddyddiad cyn y dyddiad pan gafodd ei wneud.