RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.

4

Yn y Rheoliadau hyn—

  • defnyddir “A” (“A”) i gyfeirio at berson y darperir neu y trefnir, neu y caniateir darparu neu drefnu gofal a chymorth ar ei gyfer gan awdurdod lleol o dan Ran 4 o’r Ddeddf, ac sy’n atebol i dalu ffi fel y darperir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hyn3;

  • mae i “ad-daliad” (“reimbursement”) mewn perthynas â pherson y diwellir ei anghenion gan yr awdurdod lleol drwy wneud taliadau uniongyrchol, yr ystyr a roddir iddo yn y diffiniad o “taliadau gros” yn adran 53(2) o’r Ddeddf;

  • ystyr “anghenion asesedig” (“assessed needs”) yw anghenion person, a ganfuwyd mewn asesiad o dan adran 19 (dyletswydd i asesu anghenion oedolyn am ofal a chymorth), neu 24 (dyletswydd i asesu anghenion gofalwr am gymorth) o’r Ddeddf;

  • defnyddir “B” (“B”) i gyfeirio at berson y gwneir taliadau uniongyrchol mewn perthynas â’i anghenion gan awdurdod lleol, neu y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol o’r fath mewn perthynas â’i anghenion, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 50 neu 52 o’r Ddeddf, ac sy’n atebol i wneud cyfraniad neu ad-daliad;

  • ystyr “budd-dal perthnasol” (“relevant benefit”) yw—

    1. a

      cymhorthdal incwm, neu

    2. b

      lwfans cyflogaeth a chymorth, neu

    3. c

      credyd gwarant;

  • mae “cartref gofal” (“care home”) wedi ei ddiffinio yn adran 197(1) o’r Ddeddf4;

  • mae “credyd gwarant” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “guarantee credit” yn adrannau 1 a 2 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 20025;

  • mae i “cyfraniad” (“contribution”), mewn perthynas â pherson y diwellir ei anghenion drwy daliadau uniongyrchol a wneir gan yr awdurdod lleol, yr ystyr a roddir i’r gair yn y diffiniad o “taliadau net” yn adran 53(2) o’r Ddeddf;

  • mae i “cymhorthdal incwm” yr ystyr a roddir i “income support” a delir yn unol ag adran 124 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 19926;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

  • mae i “ffi safonol” (“standard charge”) yr ystyr a roddir yn adran 63(3) o’r Ddeddf;

  • ystyr “ffi unffurf” (“flat-rate charge”) yw ffi sefydlog a osodir gan awdurdod lleol heb ystyried modd y person sy’n atebol i dalu ffi am—

    1. a

      gofal a chymorth a drefnir neu a ddarperir gan awdurdod lleol o dan Ran 4 o’r Ddeddf (diwallu anghenion); neu

    2. b

      gwasanaethau a ddarperir o dan adran 15 (gwasanaethau ataliol) neu am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17 o’r Ddeddf (darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy);

  • ystyr “gofal a chymorth ailalluogi” (“reablement”) yw gofal a chymorth—

    1. a

      a ddarperir neu a drefnir gan awdurdod lleol ar gyfer A o dan Ran 2 neu 4 o’r Ddeddf; neu

    2. b

      a sicrheir neu a drefnir gan A, pan fo A neu pan fydd A yn cael taliadau uniongyrchol a wneir yn unol ag adran 50 neu 52 o’r Ddeddf; ac

    3. c

      sydd—

      1. i

        yn cynnwys rhaglen o ofal a chymorth,

      2. ii

        am gyfnod penodedig7 o amser (“y cyfnod penodedig”), a

      3. iii

        â’r diben o ddarparu cynhorthwy i A er mwyn galluogi A i barhau i allu byw’n annibynnol yn unig gartref neu brif gartref A neu i allu gwneud hynny eto;

  • ystyr “gofal a chymorth amhreswyl” (“non-residential care and support”) yw unrhyw ofal a chymorth a ddarperir i ddiwallu angen person am ofal a chymorth, ac eithrio darpariaeth o lety mewn cartref gofal;

  • ystyr “gwasanaeth dydd” (“day service”) yw gwasanaeth a ddarperir gan awdurdod lleol sy’n diwallu rhan o anghenion asesedig oedolyn, sy’n digwydd i ffwrdd o gartref yr oedolyn gyda’r bwriad o’i gynorthwyo i gyfarfod eraill, mabwysiadu diddordebau newydd neu arfer ei ddiddordebau presennol, gan gynnwys cyfleoedd gwaith;

  • ystyr hawlogaeth sylfaenol” (“basic entitlement”) yw, mewn perthynas ag—

    1. a

      cymhorthdal incwm—

      y lwfans personol8 ac unrhyw bremiymau9 y mae hawl gan A i’w cael, ond nid oes raid iddo gynnwys y premiwm anabledd difrifol (“severe disablement premium”) (“SDP”)10 pan delir y premiwm hwnnw, a phan fo A yn ofalwr, mae’n cynnwys unrhyw bremiwm gofalwr y mae A yn ei gael,

    2. b

      lwfans cyflogaeth a chymorth—

      y lwfans personol ac unrhyw bremiymau a chydrannau y mae hawl gan A i’w cael ond nid oes raid iddo gynnwys yr SDP pan delir y premiwm hwnnw, a phan fo A yn ofalwr, mae’n cynnwys unrhyw bremiwm gofalwr y mae A yn ei gael,

    3. c

      credyd gwarant—

      y lwfans personol ac unrhyw swm ychwanegol y mae hawl gan A i’w gael, ond nid oes raid iddo gynnwys y swm ychwanegol ar gyfer anabledd difrifol pan delir hwnnw, a phan fo A yn ofalwr, mae’n cynnwys unrhyw swm ychwanegol a gaiff A sy’n gymwys i ofalwyr;

  • ystyr “incwm asesedig” (“assessed income”) yw’r rhan honno o incwm A, a gyfrifwyd yn unol â’r Rheoliadau Asesiad Ariannol, ac y caiff awdurdod lleol ei chymryd i ystyriaeth wrth wneud dyfarniad o dan y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “incwm wythnosol net” (“net weekly income”) yw’r incwm wythnosol sydd neu a fyddai gan A yn weddill, ar ôl didynnu’r ffi safonol (neu unrhyw ffi arall) a osodir o dan Ran 5 o’r Ddeddf a’r Rheoliadau hyn, allan o incwm asesedig A;

  • ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth” (“employment and support allowance”) yw naill ai lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail cyfraniadau neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, yn unol â Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Lles 200711;

  • ystyr “preswylydd byrdymor” (“short-term resident”) yw person y darperir, neu y bwriedir darparu, llety mewn cartref gofal iddo o dan y Ddeddf am gyfnod nad yw’n hwy nag 8 wythnos;

  • ystyr “Rheoliadau Asesiad Ariannol” (“Financial Assessment Regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 201512;

  • ystyr “Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol” (“Direct Payments Regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 201513;

  • mae i “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) yr ystyr a roddir i’r term yn adrannau 50(7) a 52(7) o’r Ddeddf;

  • ystyr “terfyn ariannol” (“financial limit”) yw’r terfyn o ran cyfalaf A a osodir gan y terfyn cyfalaf;

  • ystyr “terfyn cyfalaf” (“capital limit”) yw’r uchafswm cyfalaf, a asesir yn unol â’r Rheoliadau Asesiad Ariannol, y caniateir i berson y codir ffi arno feddu arno, ac uwchlaw’r uchafswm hwnnw y bydd yn ofynnol i’r person hwnnw, yn unol â rheoliad 11, dalu’r ffi safonol yn llawn.

5

Yn y Rheoliadau hyn, yn achos gofalwr, rhaid darllen cyfeiriadau at ddarparu neu drefnu gofal a chymorth fel pe baent yn gyfeiriadau at ddarparu neu drefnu cymorth.