RHAN 4CYFRANIADAU AC AD-DALIADAU AM DALIADAU UNIONGYRCHOL
Personau y mae rheoliadau 17 i 30 yn gymwys iddynt
17.—(1) Mae gan awdurdod lleol ddisgresiwn i’w gwneud yn ofynnol bod person y mae’r awdurdod yn gwneud taliadau uniongyrchol iddo yn gwneud cyfraniad neu ad-daliad tuag at y gost o sicrhau’r ddarpariaeth o’r gofal a chymorth y gwneir y taliadau uniongyrchol mewn perthynas â hi.
(2) Wrth arfer y disgresiwn i wneud cyfraniad neu ad-dalid yn ofynnol, rhaid i awdurdod lleol weithredu yn unol â rheoliadau 17 i 30.
(3) Mae rheoliadau 17 i 30 yn gymwys mewn perthynas â pherson y diwellir ei anghenion am ofal a chymorth gan awdurdod lleol yn unol â dyletswydd neu bŵer i wneud taliadau uniongyrchol, a roddir gan y Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol yn rhinwedd adrannau 50 a 52 o’r Ddeddf.
Personau na chaniateir ei gwneud yn ofynnol eu bod yn gwneud cyfraniad neu ad-daliad
18.—(1) Ni chaiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol bod B yn gwneud cyfraniad nac ychwaith osod amod ar gyfer ad-daliad mewn perthynas â B pan fo B—
(a)yn dioddef o unrhyw ffurf o glefyd Creutzfeldt-Jakob, a diagnosis clinigol o’r clefyd hwnnw wedi ei roi gan ymarferydd meddygol cofrestredig(1); neu
(b)wedi cael cynnig neu’n cael gwasanaeth a ddarperir fel rhan o becyn o wasanaethau ôl-ofal yn unol ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal).
(2) Ni chaiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol gwneud cyfraniad nac ychwaith osod amod ar gyfer ad-daliad mewn perthynas â pherson y diwellir ei anghenion am ofal a chymorth gan awdurdod lleol yn unol â dyletswydd neu bŵer a roddir gan y Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol yn rhinwedd adran 51 o’r Ddeddf.
Gwasanaethau na chaniateir codi ffi amdanynt
19. Ni chaiff awdurdod lleol wneud cyfraniad neu ad-daliad yn ofynnol mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol ar gyfer—
(a)gofal a chymorth ar ffurf darparu cludiant i fynychu gwasanaeth dydd, pan ddarperir y cludiant gan awdurdod lleol a phan fo presenoldeb yn y gwasanaeth dydd a’r ddarpariaeth o gludiant i alluogi presenoldeb yn angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion asesedig y person;
(b)darparu datganiad sy’n nodi dyfarniad yr awdurdod yn unol â rheoliad 29;
(c)gofal a chymorth ailalluogi am y 6 wythnos gyntaf o’r cyfnod penodedig neu, os yw’r cyfnod penodedig yn llai na 6 wythnos, am y cyfnod hwnnw;
(d)gwasanaethau eiriolaeth sy’n ofynnol wrth gyflawni swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan Ran 4 o’r Ddeddf.
Dyfarniadau ynghylch cyfraniadau neu ad-daliadau
20. Pan fo awdurdod lleol yn tybio y byddai’n ei gwneud yn ofynnol gwneud cyfraniad neu ad-daliad mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol a wneir, neu y cynigir eu gwneud ganddo, ac wedi cynnal asesiad ariannol o B yn unol â gofynion y Rheoliadau Asesiad Ariannol, rhaid iddo wneud dyfarniad ynghylch pa swm, os oes un, y mae’n rhesymol ymarferol i B ei gyfrannu tuag at gost sicrhau’r gofal a chymorth y gwneir y taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â hwy, pa un ai ar ffurf cyfraniad neu ad-daliad, yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.
Amgylchiadau pan nad oes angen i awdurdod lleol wneud dyfarniad
21. Nid oes angen i awdurdod lleol wneud dyfarniad o dan y Rheoliadau hyn os yr unig ofal a chymorth y gwneir taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â hwy yw naill ai gofal a chymorth y codir ffi unffurf amdanynt neu na chodir unrhyw ffi amdanynt.
Uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl
22.—(1) Ac eithrio pan fo’r gofal a chymorth y gwneir taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â hwy yn ddarpariaeth o ofal a llety mewn cartref gofal, ac yn ddarostyngedig i baragraff (2) o’r rheoliad hwn, ni chaiff awdurdod lleol ddyfarnu ei bod yn rhesymol ymarferol i B wneud cyfraniad neu ad-daliad o fwy na £60 yr wythnos tuag at gost y gofal a chymorth.
(2) Wrth gyfrifo’r uchafswm rhesymol y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod B yn ei dalu, o ran awdurdod lleol—
(a)rhaid iddo ddiystyru’r gost o sicrhau unrhyw ofal a chymorth y mae’n gosod ffi unffurf amdanynt, a
(b)caiff osod y ffioedd mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaeth yn ychwanegol at yr uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol.
(3) Pan fo B yn cael taliad uniongyrchol i’w alluogi i brynu cyfarpar, a fyddai fel arall yn cael ei ddarparu gan awdurdod lleol, o ran yr awdurdod lleol—
(a)rhaid iddo ddiystyru’r gost o’r cyfarpar wrth gyfrifo’r uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod B yn ei dalu, a
(b)caiff ei gwneud yn ofynnol bod B yn talu swm yn ychwanegol at yr uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol tuag at y gost o sicrhau’r cyfarpar.
Gweithdrefn ar gyfer dyfarnu swm cyfraniad neu ad-daliad mewn perthynas â thaliad uniongyrchol am ofal a chymorth amhreswyl
23.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â dyfarnu lefel y cyfraniad neu’r ad-daliad y mae’n ofynnol i B ei wneud, neu y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod B yn ei wneud, mewn cysylltiad â thaliadau uniongyrchol am ofal a chymorth amhreswyl.
(2) Wrth gyfrifo’r swm y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod B yn ei gyfrannu ar ffurf cyfraniad neu ad-daliad, rhaid i awdurdod lleol fabwysiadu’r weithdrefn a nodir ym mharagraff (3).
(3) Rhaid i awdurdod lleol—
(a)cyfrifo cost resymol sicrhau’r ddarpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer B;
(b)diystyru o’r cyfanswm hwnnw—
(i)swm cyfwerth â’r ffi unffurf mewn cysylltiad â’r gwasanaethau hynny y codir ffi unffurf amdanynt yn unol â rheoliad 22(2); a
(ii)unrhyw swm a dalwyd am bryniant cyfarpar a fyddai, fel arall, yn cael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol;
(c)cymhwyso’r uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol ar gyfer gofal a chymorth amhreswyl, os byddai’r canlyniad, fel arall, yn fwy na’r uchafswm;
(d)mewn perthynas â’r swm a gyfrifwyd yn unol â’r rheoliad hwn, dyfarnu’r hyn y byddai’n rhesymol ymarferol i’r person ei gyfrannu ar ffurf cyfraniad neu ad-daliad yn unol â rheoliadau 26 (terfyn cyfalaf) a 27 (isafswm incwm ar gyfer person a chanddo anghenion am ofal a chymorth amhreswyl).
Gweithdrefn ar gyfer dyfarnu lefel cyfraniad neu ad-daliad mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol am lety mewn cartref gofal
24.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â dyfarnu lefel cyfraniad neu ad-daliad mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol am lety mewn cartref gofal.
(2) Wrth gyfrifo’r swm y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod B yn ei gyfrannu ar ffurf cyfraniad neu ad-daliad, rhaid i’r awdurdod lleol fabwysiadu’r weithdrefn ganlynol—
(a)cyfrifo cyfanswm y gost resymol o sicrhau’r gofal a chymorth i ddiwallu anghenion B;
(b)mewn perthynas â’r swm yn is-baragraff (a), dyfarnu’r hyn y byddai’n rhesymol ymarferol i B ei dalu fel cyfraniad neu ad-daliad yn unol â rheoliad 26 (terfyn cyfalaf) a rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal).
(3) Pan fo awdurdod lleol yn tybio y byddai’n gosod ffi mewn perthynas â B pan fo B yn breswylydd byrdymor, rhaid iddo drin B fel pe bai B yn cael gofal a chymorth amhreswyl a dilyn y weithdrefn yn rheoliad 23 a gwneud dyfarniad yn unol â rheoliadau 26 a 27.
Gweithdrefn ar gyfer dyfarnu lefel cyfraniad neu ad-daliad pan na chynhelir asesiad ariannol
25.—(1) Pan fo rheoliad 7(1)(b) neu (c) o’r Rheoliadau Asesiad Ariannol yn gymwys (amgylchiadau pan nad oes dyletswydd i gynnal asesiad ariannol) rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu ei bod yn rhesymol ymarferol i B gyfrannu, ar ffurf cyfraniad neu ad-daliad, swm sy’n hafal i’r gost resymol o sicrhau’r gofal a chymorth y gwneir y taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â hwy.
(2) Pan wneir, neu pan fwriedir gwneud, y taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion B am ofal a chymorth amhreswyl, mae’r gofyniad ym mharagraff (1) yn ddarostyngedig i’r uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol mewn perthynas â gofal a chymorth amhreswyl a osodir gan reoliad 22.
Terfyn cyfalaf – taliadau uniongyrchol
26.—(1) Pan fo gan B gyfalaf uwchlaw’r terfyn cyfalaf yn rheoliad 11(2), rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu ei bod yn rhesymol ymarferol i B wneud cyfraniad neu ad-daliad o swm sy’n hafal i’r gost resymol o sicrhau’r gofal a chymorth y gwneir y taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â hwy, yn ddarostyngedig i’r uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol mewn perthynas â gofal a chymorth amhreswyl.
(2) Pan fo’r cyfalaf sydd gan B ar y terfyn cyfalaf neu islaw iddo, rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu nad yw’n rhesymol ymarferol i B wneud unrhyw gyfraniad neu ad-daliad allan o gyfalaf.
Isafswm incwm ar gyfer person a chanddo anghenion am ofal a chymorth amhreswyl
27.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod yn gwneud, neu’n cynnig gwneud, taliadau uniongyrchol i B i ddiwallu anghenion B am ofal a chymorth amhreswyl.
(2) Rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu na fyddai’n rhesymol ymarferol i B gyfrannu fel cyfraniad neu ad-daliad unrhyw swm y byddai ei dalu yn gostwng incwm wythnosol net B islaw’r isafswm incwm a nodir yn y rheoliad hwn.
(3) Pan fo B yn cael budd-dal perthnasol, yr isafswm incwm yw—
(a)yr hawlogaeth wythnosol sylfaenol i’r budd-dal perthnasol y mae B yn ei gael (“yr hawlogaeth sylfaenol”);
(b)swm o ddim llai na 35% o’r hawlogaeth honno (“y glustog”);
(c)swm ychwanegol i ddigolledu B am wariant cysylltiedig ag anabledd, sef dim llai na 10% o’r hawlogaeth sylfaenol; a
(d)swm wythnosol cyfwerth ag unrhyw ffioedd unffurf a delir, neu sydd i’w talu, gan B, pa un ai am wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o’r Ddeddf, neu am wasanaethau a ddarperir o dan adran 15 neu am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17 o’r Ddeddf.
(4) Pan nad yw B yn cael budd-dal perthnasol, yr isafswm incwm yw—
(a)swm wythnosol yr hyn a asesir yn rhesymol gan yr awdurdod lleol fyddai hawlogaeth sylfaenol B i fudd-daliadau, gan ystyried oedran, amgylchiadau a lefel anabledd B (“yr amcangyfrif o’r hawlogaeth sylfaenol”);
(b)swm o ddim llai na 35% o’r amcangyfrif o’r hawlogaeth sylfaenol (“y glustog”);
(c)swm i ddigolledu B am wariant cysylltiedig ag anabledd, sef dim llai na 10% o’r amcangyfrif o’r hawlogaeth sylfaenol; a
(d)swm wythnosol cyfwerth ag unrhyw ffioedd unffurf a delir, neu sydd i’w talu, gan B, pa un ai am wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o’r Ddeddf, neu am wasanaethau a ddarperir o dan adran 15 neu am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17 o’r Ddeddf.
(5) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol i gynyddu canran y glustog neu’r swm i ddigolledu am wariant cysylltiedig ag anabledd wrth gyfrifo’r isafswm incwm.
Isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal
28. Pan fo awdurdod lleol yn gwneud, neu’n cynnig gwneud, taliadau uniongyrchol i B i ddiwallu anghenion B am ofal a chymorth drwy ddarpariaeth o lety mewn cartref gofal, rhaid i’r awdurdod lleol ddyfarnu na fyddai’n rhesymol ymarferol i B gyfrannu, fel cyfraniad neu ad-daliad, unrhyw swm y byddai ei dalu yn gostwng incwm wythnosol net B islaw £26.50.
Datganiad o ddyfarniad – taliadau uniongyrchol
29.—(1) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad yn unol â’r Rheoliadau hyn ynglŷn â’r swm y mae’n rhesymol ymarferol i B ei gyfrannu fel cyfraniad neu ad-daliad tuag at gost y gofal a chymorth y mae taliadau uniongyrchol naill ai—
(a)yn cael eu cynnig i B am y tro cyntaf; neu
(b)eisoes yn cael eu talu i B, ond gwneir yn ofynnol am y tro cyntaf fod B yn gwneud cyfraniad neu ad-daliad,
rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu datganiad i B, sy’n nodi’r taliad y mae’n rhaid i B ei wneud.
(2) Ni chaiff yr awdurdod lleol wneud cyfraniad neu ad-daliad yn ofynnol gan B tan y dyddiad yr anfonir y datganiad at B.
(3) Ond unwaith y bydd datganiad wedi ei ddyroddi caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol bod B yn gwneud cyfraniad neu ad-daliad mewn perthynas ag unrhyw daliadau a wnaed cyn dyddiad y datganiad.
Dyfarniad diwygiedig – taliadau uniongyrchol
30.—(1) Caiff awdurdod lleol wneud dyfarniad newydd—
(a)pan fo’n tybio bod newid wedi digwydd yng nghyfalaf neu incwm B;
(b)pan fo’n tybio bod newid wedi digwydd yn y gost resymol o sicrhau’r gofal a chymorth (gan gynnwys newid o ganlyniad i wahaniaeth yn lefel y gofal a chymorth a ddarperir, neu yn y graddau y darperir y gofal a chymorth);
(c)pan fo’r awdurdod lleol wedi newid ei bolisi ynglŷn ag arfer y disgresiwn i godi ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf;
(d)pan fo’n tybio bod camgymeriad wedi ei wneud wrth asesu cyfalaf neu incwm B, neu wrth wneud y dyfarniad; neu
(e)pan fo B yn gofyn am ddyfarniad newydd.
(2) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad pellach o allu B i dalu cyfraniad neu ad-daliad yn unol â’r rheoliad hwn, ni chaiff wneud taliad diwygiedig yn ofynnol tan y dyddiad y darperir datganiad pellach sy’n nodi’r swm diwygiedig, a bydd y datganiad blaenorol yn parhau i gael effaith tan y dyddiad hwnnw.
Gweler troednodyn (1) i reoliad 3.