xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i osod ffioedd am ofal a chymorth a ddarperir i ddiwallu anghenion person. Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r gofynion y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu bodloni wrth ddyfarnu swm y ffioedd sy’n gymwys mewn perthynas â gofal a chymorth a ddarperir neu a drefnir ganddynt, neu y cynigiant eu darparu neu eu trefnu, wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Ymdrinnir â hyn yn Rhan 2 o’r Rheoliadau.

Mae Rhan 3 yn rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol godi ffi am unrhyw wasanaethau a ddarperir ganddynt wrth gyflawni eu dyletswydd o ddarparu gwasanaethau ataliol o dan adran 15 o’r Ddeddf neu eu dyletswydd o ddarparu cynhorthwy o dan adran 17 o’r Ddeddf.

Mae Rhan 4 yn cynnwys darpariaeth gyfochrog sy’n nodi’r gofynion sy’n gymwys pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth. Yn yr amgylchiadau hynny, caiff yr awdurdod lleol naill ai wneud taliadau gros gan fynnu bod y person wedyn yn gwneud ad-daliad, neu wneud taliadau net ar y sail gofyniad bod person yn gwneud cyfraniad tuag at gost y gofal a’r cymorth sydd eu hangen i ddiwallu ei anghenion asesedig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi drwy gysylltu â’r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.