Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1843 (Cy. 271)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015

Gwnaed

27 Hydref 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3 Tachwedd 2015

Yn dod i rym

6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50, 52, 53(3), 61, 62, 66, 67, 69 a 196(2)(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

(1)

Mewn perthynas â phob un o’r adrannau sy’n darparu pŵer i wneud rheoliadau, sylwer bod adran 197 yn diffinio “rheoliadau” fel rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.