Cydnabod y cais10
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i awdurdod lleol, o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl cael unrhyw gais a dderbynnir fel un dilys o dan reoliad 9, anfon at y ceisydd ac unrhyw gynrychiolydd ddatganiad sy’n nodi—
a
y dyddiad y cafwyd y cais;
b
natur y cais;
c
os nad yw’r ceisydd eisoes wedi penodi cynrychiolydd, y caiff y ceisydd benodi cynrychiolydd i’w gynorthwyo ac i weithredu ar ei ran yn ystod y cyfan neu ran o’r cyfnod adolygu;
d
y modd y bydd yr awdurdod lleol yn cynnal yr adolygiad;
e
nad oes raid i’r ceisydd dalu’r ffi, neu’r rhan o’r ffi, sy’n destun yr adolygiad, yn ystod y cyfnod adolygu;
f
os yw’r ceisydd yn penderfynu peidio â thalu’r ffi, neu’r rhan o’r ffi, sy’n destun yr adolygiad, yn ystod y cyfnod adolygu, bod rhaid i’r ceisydd neu unrhyw gynrychiolydd hysbysu’r awdurdod lleol o’r penderfyniad hwnnw, naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen;
g
pa un a fydd yr awdurdod lleol, os digwydd i’r ceisydd beidio â thalu’r ffi yn ystod y cyfnod adolygu, yn ceisio adennill, ar ôl y cyfnod adolygu, unrhyw swm a fydd wedi cronni a heb ei dalu yn ystod y cyfnod adolygu;
h
os yw’r ceisydd—
i
wedi gofyn am adolygu dyfarniad a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 53(1) o’r Ddeddf, y dylai’r ceisydd dalu cyfraniad tuag at daliadau uniongyrchol, a
ii
wedi hysbysu’r awdurdod lleol na fydd yn talu’r cyfraniad yn ystod y cyfnod adolygu,
y bydd yr awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol gros;
i
pa wybodaeth neu ddogfennaeth bellach, os oes rhai, y mae’r awdurdod lleol yn gofyn amdanynt yn rhesymol gan y ceisydd er mwyn cynnal yr adolygiad, a’r terfyn amser ar gyfer cyflenwi’r cyfryw wybodaeth neu ddogfennaeth, a bennir yn rheoliad 12;
j
os yw’r ceisydd yn drosglwyddai atebol—
i
pa un a yw’r awdurdod lleol yn bwriadu gofyn ai peidio am wybodaeth neu ddogfennaeth gan berson ac eithrio’r ceisydd yn unol â rheoliad 13, a
ii
pa wybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ofynnol gan y person hwnnw ;
k
y bydd swyddog priodol o’r awdurdod lleol ar gael i wneud ymweliad â’r cartref at y diben o gasglu’r wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol;
l
y weithdrefn ar gyfer gofyn am ymweliad â’r cartref;
m
enw a manylion cyswllt y person penodedig a fydd yn gyfrifol am ymateb i unrhyw ymholiadau a wneir gan y ceisydd ynglŷn â’r adolygiad;
n
manylion cyswllt unrhyw sefydliad a allai fod o gymorth i’r ceisydd yn ystod y cyfnod adolygu.
2
Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn anfon ei benderfyniad ar yr adolygiad at y ceisydd ac unrhyw gynrychiolydd o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl cael y cais.
3
Pan fo’r datganiad o dan baragraff (1) yn cynnwys cais am wybodaeth a dogfennaeth o dan baragraff (1)(j), rhaid i’r awdurdod lleol anfon datganiad at y person (“P”) y gofynnir am yr wybodaeth a dogfennaeth ganddo, sy’n nodi—
i
natur y cais, i’r graddau y mae’n ymwneud â throsglwyddo ased gan P sy’n bodloni’r amodau yn adran 72(1) o’r Ddeddf;
ii
pa wybodaeth a dogfennaeth y gofynnir amdanynt gan P er mwyn cynnal yr adolygiad, a’r terfyn amser ar gyfer cyflenwi’r cyfryw wybodaeth neu ddogfennaeth, a bennir yn rheoliad 12;
iii
y byddai swyddog o’r awdurdod lleol ar gael i wneud ymweliad â’r cartref at y diben o gasglu’r wybodaeth neu’r ddogfennaeth ychwanegol;
iv
y weithdrefn ar gyfer gofyn am ymweliad â’r cartref; a
v
enw a manylion cyswllt y person penodedig.