2015 Rhif 1842 (Cy. 270)
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Adolygu Penderfyniadau a Dyfarniadau Gosod Ffi) (Cymru) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 50, 51, 52, 53(3), 67(2), 70(8)(a), 73 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Adolygu Penderfyniadau a Dyfarniadau Gosod Ffi) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2016.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ad-daliad” (“reimbursement”) yw swm y dyfernir sydd i’w ad-dalu fel y crybwyllir yn adran 53(1)(c)(ii) o’r Ddeddf mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol;
ystyr “asesiad ariannol” (“financial assessment”) yw asesiad ariannol o dan adran 63 o’r Ddeddf;
ystyr “ceisydd” (“requester”) yw—
- a
person a restrir ym mharagraffau (a) to (c) o reoliad 3; a
- b
a ofynnodd am adolygiad o unrhyw benderfyniad sy’n ymwneud â chodi ffi, y cyfeirir ato yn adran 73(1) o’r Ddeddf neu ddyfarniad ynghylch ad-daliad neu gyfraniad a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o’r Ddeddf;
- a
ystyr “cyfnod adolygu” (“review period”) yw cyfnod sy’n cychwyn gyda’r dyddiad y mae’r awdurdod lleol yn cael cais am adolygiad, ac yn diweddu ar y cynharaf o naill ai’r dyddiad y mae’r awdurdod lleol yn anfon ei benderfyniad ar yr adolygiad at y ceisydd, neu’r dyddiad yr hysbysir yr awdurdod lleol o dynnu’n ôl y cais;
ystyr “cyfraniad” (“contribution”) yw swm y dyfernir fel cyfraniad, fel y crybwyllir yn adran 53(1)(c)(ii) o’r Ddeddf mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol;
ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad mewn ffurf sy’n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu pob un o’r canlynol—
- a
y ceisydd;
- b
unrhyw gynrychiolydd penodedig; neu
- c
person y mae’r awdurdod lleol yn gofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth ganddo o dan reoliad 13;
- a
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc yn yr ystyr a roddir i “bank holiday” yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 2;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
ystyr “ffi” (“charge”) yw—
- a
unrhyw ffi a osodir yn unol ag adran 59 o’r Ddeddf;
- b
unrhyw ad-daliad neu gyfraniad y dyfernir yn unol â rheoliadau a wneir o dan adrannau 50 i 53 o’r Ddeddf; neu
- c
unrhyw ffi a osodir ar berson a ddaeth yn atebol, yn unol ag adran 72 o’r Ddeddf, am swm mewn cysylltiad â chostau diwallu anghenion person;
- a
mae i “ffi safonol” (“standard charge”) yr ystyr a roddir yn adran 63(3) o’r Ddeddf;
mae i “gofal a chymorth” (“care and support”) yr ystyr a roddir yn adran 4 o’r Ddeddf;
ystyr “mewn ysgrifen” (“in writing”) yw unrhyw fynegiant a gyfansoddir o eiriau neu ffigurau y gellir ei ddarllen, ei atgynhyrchu a’i gyfathrebu yn ddiweddarach, a gall gynnwys gwybodaeth a drawsyrrir ac a gedwir gan ddefnyddio dulliau electronig;
ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw person a benodwyd i ymdrin â’r adolygiad yn unol â rheoliad 7 o’r Rheoliadau hyn;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015;
mae i “taliadau gros” (“gross payments”) yr ystyr a roddir yn adran 53(2) o’r Ddeddf;
ystyr “trosglwyddai atebol” (“liable transferee”) yw trosglwyddai o fewn yr ystyr yn adran 72 o’r Ddeddf, y codir atebolrwydd yn ei erbyn o dan yr adran honno;
ystyr “ymweliad â’r cartref” (“home visit”) yw ymweliad a wneir gan swyddog awdurdod lleol â phreswylfa gyfredol—
- a
ceisydd; neu
- b
person y mae’r awdurdod lleol yn gofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth ganddo o dan reoliad 13
neu â pha bynnag fan cyfarfod arall y gofynnir amdano yn rhesymol gan y personau y cyfeirir atynt yn (a) neu (b).
- a
Personau a gaiff wneud cais am adolygiad3
Caiff y personau canlynol wneud cais am adolygiad o unrhyw un o’r penderfyniadau sy’n ymwneud â chodi ffi yn adran 73(1) o’r Ddeddf neu ddyfarniad ynghylch ad-daliad neu gyfraniad a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o’r Ddeddf—
a
personau y caniateir gosod ffi arnynt yn unol ag adran 60 o’r Ddeddf;
b
person y gwnaed yn ofynnol ei fod yn talu ad-daliad neu gyfraniad mewn perthynas â thaliad uniongyrchol, a ddyfarnwyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o’r Ddeddf;
c
trosglwyddai atebol; neu
d
yn ddarostyngedig i reoliad 6, unrhyw gynrychiolydd a benodwyd i wneud y cais ar ran personau sy’n dod o fewn paragraffau (a) i (c) uchod.
Yr amgylchiadau pan ganiateir gwneud cais am adolygiad4
Caiff cais ymwneud ag amgylchiadau a honnir gan y ceisydd fel a ganlyn—
a
nad yw awdurdod lleol wedi cydymffurfio, pan fo’n briodol, ag unrhyw un o’r dyletswyddau a osodir arno gan—
i
Rhan 5 o’r Ddeddf neu gan reoliadau a wnaed oddi tani;
ii
unrhyw reoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o’r Ddeddf; neu
iii
y cod ymarfer ar asesu ariannol a chodi ffioedd a ddyroddwyd o dan adran 145 o’r Ddeddf;
b
nad yw awdurdod lleol wedi cymhwyso’n gywir ei bolisi ei hunan ar godi ffioedd, wrth osod unrhyw ffi;
c
y gwnaed camgymeriad wrth gyfrifo’r ffi;
d
y gosodwyd ffi am ofal a chymorth nas darparwyd erioed i’r ceisydd;
e
bod y ceisydd o’r farn nad oes ganddo’r modd ariannol i dalu’r ffi gan y byddai talu’r ffi yn achosi caledi ariannol;
f
bod ceisydd sy’n drosglwyddai atebol yn honni nad yw’r trosglwyddiad asedau perthnasol yn bodloni’r amodau yn adran 72(1) o’r Ddeddf, oherwydd bod un neu’r ddau o’r canlynol yn gymwys—
i
na wnaed y trosglwyddiad gyda’r bwriad o osgoi ffioedd am ddiwallu anghenion person; neu
ii
mai’r gydnabyddiaeth a dalwyd am drosglwyddo’r ased oedd y swm y byddid wedi ei gael pe bai’r ased wedi ei werthu ar y farchnad agored gan werthwr parod ar yr adeg y gwnaed y trosglwyddiad.
Y broses ar gyfer gofyn am adolygiad5
1
Caniateir gwneud cais am adolygiad ar unrhyw adeg wedi i awdurdod lleol wneud ei benderfyniad i osod ffi ac wedi iddo hysbysu’r ceisydd o’r penderfyniad hwnnw.
2
Rhaid i’r cais ddatgan pa un neu pa rai o’r amgylchiadau yn rheoliad 4 yw’r rheswm dros ofyn am adolygiad.
3
Caniateir gwneud cais naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen.
Cynrychiolwyr6
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caniateir i berson (“cynrychiolydd”) ofyn am adolygiad ar ran y ceisydd a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “gynrychiolydd” yn unol â hynny.
2
Os yw ceisydd yn dymuno penodi cynrychiolydd i ofyn am adolygiad ar ei ran, rhaid i’r ceisydd hysbysu’r awdurdod lleol, naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen, ei fod wedi awdurdodi’r penodiad.
3
Os yw’r awdurdod lleol yn cael awdurdodiad y ceisydd ar lafar, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu datganiad i’r ceisydd ac i’w gynrychiolydd, sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi awdurdodi’r penodiad ar lafar.
4
Pan fo cynrychiolydd wedi ei benodi yn unol â’r rheoliad hwn, caiff y cynrychiolydd weithredu ar ran y ceisydd drwy gydol y cyfnod adolygu oni fydd awdurdodiad y ceisydd yn datgan yn wahanol, neu’r ceisydd wedi tynnu’n ôl ei awdurdodiad o dan baragraff (5).
5
Caiff ceisydd dynnu’n ôl ei awdurdodiad drwy roi hysbysiad, naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen i’r person penodedig.
6
Pan fo cynrychiolydd wedi ei benodi yn unol â’r rheoliad hwn, mae unrhyw gyfeiriad at geisydd yn rheoliadau 8(1) a (2), 10(1)(m) ac (n), 11(1), 12(1), (2) a (4) a 14(3) yn gyfeiriad at gynrychiolydd y person hwnnw, i’r graddau y mae hynny’n gyson ag awdurdodiad y ceisydd.
Y person penodedig7
1
Ar ôl cael cais am adolygiad, rhaid i’r awdurdod benodi person, y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y person penodedig.
2
Swyddogaeth y person penodedig yw rheoli’r broses adolygu hyd at, ond heb gynnwys, gwneud y penderfyniad yn unol â rheoliad 14.
3
Rhaid i’r person penodedig fod yn aelod o staff yr awdurdod lleol.
Tynnu cais yn ôl8
1
Caiff ceisydd dynnu cais am adolygiad yn ôl ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod adolygu.
2
Caiff ceisydd dynnu cais yn ôl drwy hysbysu’r person penodedig naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen.
3
Pan dynnir cais yn ôl, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu datganiad i’r ceisydd ac i unrhyw gynrychiolydd, i gadarnhau bod y cais wedi ei dynnu’n ôl, ac o ganlyniad, na chymerir unrhyw gamau pellach ynglŷn ag ef.
Derbyn y cais9
1
Pan fo cais am adolygiad yn cydymffurfio â rheoliadau 3, 4 a 5, mae rheoliadau 10 i 17 yn gymwys.
2
Nid yw rheoliadau 10 i 17 yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn credu nad oes newid perthnasol wedi digwydd mewn unrhyw un o’r amgylchiadau a restrir yn rheoliad 4 ac a oedd wedi arwain at gais blaenorol am adolygiad gan, neu ar ran, yr un person, ac nad yw’r ceisydd wedi dibynnu ar unrhyw amgylchiadau ychwanegol eraill.
3
Pan fo paragraff (2) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod lleol anfon datganiad at y ceisydd ac unrhyw gynrychiolydd, yn datgan na chaiff y cais am adolygiad ei ystyried gan yr awdurdod oherwydd bod yr awdurdod yn credu—
a
nad oes newid perthnasol wedi digwydd mewn unrhyw un o’r amgylchiadau a restrir yn rheoliad 4 ac a oedd wedi arwain at gais blaenorol am adolygiad gan, neu ar ran, yr un person; a
b
nad yw’r ceisydd wedi dibynnu ar unrhyw amgylchiadau ychwanegol eraill.
Cydnabod y cais10
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i awdurdod lleol, o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl cael unrhyw gais a dderbynnir fel un dilys o dan reoliad 9, anfon at y ceisydd ac unrhyw gynrychiolydd ddatganiad sy’n nodi—
a
y dyddiad y cafwyd y cais;
b
natur y cais;
c
os nad yw’r ceisydd eisoes wedi penodi cynrychiolydd, y caiff y ceisydd benodi cynrychiolydd i’w gynorthwyo ac i weithredu ar ei ran yn ystod y cyfan neu ran o’r cyfnod adolygu;
d
y modd y bydd yr awdurdod lleol yn cynnal yr adolygiad;
e
nad oes raid i’r ceisydd dalu’r ffi, neu’r rhan o’r ffi, sy’n destun yr adolygiad, yn ystod y cyfnod adolygu;
f
os yw’r ceisydd yn penderfynu peidio â thalu’r ffi, neu’r rhan o’r ffi, sy’n destun yr adolygiad, yn ystod y cyfnod adolygu, bod rhaid i’r ceisydd neu unrhyw gynrychiolydd hysbysu’r awdurdod lleol o’r penderfyniad hwnnw, naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen;
g
pa un a fydd yr awdurdod lleol, os digwydd i’r ceisydd beidio â thalu’r ffi yn ystod y cyfnod adolygu, yn ceisio adennill, ar ôl y cyfnod adolygu, unrhyw swm a fydd wedi cronni a heb ei dalu yn ystod y cyfnod adolygu;
h
os yw’r ceisydd—
i
wedi gofyn am adolygu dyfarniad a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 53(1) o’r Ddeddf, y dylai’r ceisydd dalu cyfraniad tuag at daliadau uniongyrchol, a
ii
wedi hysbysu’r awdurdod lleol na fydd yn talu’r cyfraniad yn ystod y cyfnod adolygu,
y bydd yr awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol gros;
i
pa wybodaeth neu ddogfennaeth bellach, os oes rhai, y mae’r awdurdod lleol yn gofyn amdanynt yn rhesymol gan y ceisydd er mwyn cynnal yr adolygiad, a’r terfyn amser ar gyfer cyflenwi’r cyfryw wybodaeth neu ddogfennaeth, a bennir yn rheoliad 12;
j
os yw’r ceisydd yn drosglwyddai atebol—
i
pa un a yw’r awdurdod lleol yn bwriadu gofyn ai peidio am wybodaeth neu ddogfennaeth gan berson ac eithrio’r ceisydd yn unol â rheoliad 13, a
ii
pa wybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ofynnol gan y person hwnnw ;
k
y bydd swyddog priodol o’r awdurdod lleol ar gael i wneud ymweliad â’r cartref at y diben o gasglu’r wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol;
l
y weithdrefn ar gyfer gofyn am ymweliad â’r cartref;
m
enw a manylion cyswllt y person penodedig a fydd yn gyfrifol am ymateb i unrhyw ymholiadau a wneir gan y ceisydd ynglŷn â’r adolygiad;
n
manylion cyswllt unrhyw sefydliad a allai fod o gymorth i’r ceisydd yn ystod y cyfnod adolygu.
2
Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn anfon ei benderfyniad ar yr adolygiad at y ceisydd ac unrhyw gynrychiolydd o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl cael y cais.
3
Pan fo’r datganiad o dan baragraff (1) yn cynnwys cais am wybodaeth a dogfennaeth o dan baragraff (1)(j), rhaid i’r awdurdod lleol anfon datganiad at y person (“P”) y gofynnir am yr wybodaeth a dogfennaeth ganddo, sy’n nodi—
i
natur y cais, i’r graddau y mae’n ymwneud â throsglwyddo ased gan P sy’n bodloni’r amodau yn adran 72(1) o’r Ddeddf;
ii
pa wybodaeth a dogfennaeth y gofynnir amdanynt gan P er mwyn cynnal yr adolygiad, a’r terfyn amser ar gyfer cyflenwi’r cyfryw wybodaeth neu ddogfennaeth, a bennir yn rheoliad 12;
iii
y byddai swyddog o’r awdurdod lleol ar gael i wneud ymweliad â’r cartref at y diben o gasglu’r wybodaeth neu’r ddogfennaeth ychwanegol;
iv
y weithdrefn ar gyfer gofyn am ymweliad â’r cartref; a
v
enw a manylion cyswllt y person penodedig.
Ymweliad â’r cartref11
1
Caiff y ceisydd, neu berson y gofynnir am wybodaeth neu ddogfennaeth ganddo yn unol â rheoliad 13, hysbysu’r person penodedig, ar lafar neu mewn ysgrifen, o’i fwriad i gydymffurfio â’r cais am wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol yn ystod ymweliad â’r cartref.
2
Os rhoddir hysbysiad o dan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod lleol ymweld â’r cartref.
Y terfyn amser ar gyfer darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol12
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw’r awdurdod lleol yn gofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol, rhaid i’r ceisydd ddarparu’r wybodaeth honno neu’r ddogfennaeth hynny i’r awdurdod lleol o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y gwnaed y cais am wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol.
2
O fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1), caiff y ceisydd ofyn i’r awdurdod lleol, naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen, am estyn yr amser ar gyfer darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol, gan roi rhesymau pam y mae angen yr estyniad.
3
Rhaid i’r awdurdod lleol ganiatáu unrhyw gais rhesymol am estyniad.
4
Os caniateir estyniad gan yr awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol gadarnhau mewn datganiad a anfonir at y ceisydd—
a
bod y terfyn amser ar gyfer darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol wedi ei estyn; a
b
hyd yr estyniad hwnnw.
5
Os digwydd i’r awdurdod lleol beidio â chael yr wybodaeth a’r ddogfennaeth ychwanegol nac ychwaith gais am estyniad, o fewn yr amser a bennir ym mharagraff (1), caiff drin y cais fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl
6
Os yw paragraff (5) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod lleol anfon datganiad at y ceisydd ac at unrhyw gynrychiolydd, sy’n nodi—
a
bod yr awdurdod lleol bellach yn trin y cais fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl;
b
bod y ffi bellach yn daladwy;
c
y swm (os oes un) sydd wedi cronni a heb ei dalu gan y ceisydd yn ystod y cyfnod adolygu; a
d
os yw’r awdurdod lleol yn bwriadu adennill unrhyw swm cronedig, y swm hwnnw ac erbyn pa ddyddiad y bydd rhaid ei dalu.
Darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth gan berson ac eithrio’r ceisydd13
1
Pan fo’r ceisydd yn drosglwyddai atebol, caiff yr awdurdod lleol ofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth gan y person (“P”) y diwellir ei anghenion o dan y Ddeddf ac a drosglwyddodd yr ased i’r ceisydd, pan fo’r wybodaeth honno’n berthnasol i’r materion sydd i’w hystyried yn yr adolygiad.
2
Mae paragraffau (1) i (4) o reoliad 12 yn gymwys i unrhyw gais gan yr awdurdod lleol yn unol â pharagraff (1) o’r rheoliad hwn, ac eithrio bod rhaid i’r datganiad y mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol ei anfon yn unol â pharagraff (4) o reoliad 12 gael ei anfon hefyd at P.
3
Os digwydd i’r awdurdod lleol beidio â chael yr wybodaeth a’r ddogfennaeth oddi wrth P nac ychwaith gais am estyniad, o fewn yr amser a bennir ym mharagraff (1) o reoliad 12, rhaid i’r awdurdod lleol anfon datganiad at P, at y ceisydd ac at unrhyw gynrychiolydd—
a
yn datgan bod P wedi methu â darparu’r wybodaeth neu’r ddogfennaeth y gofynnwyd amdanynt gan yr awdurdod lleol;
b
yn rhoi gwybod y bydd yr awdurdod lleol yn parhau i gynnal yr adolygiad ac yn gwneud y penderfyniad ar sail yr wybodaeth a’r ddogfennaeth sydd ar gael iddynt; ac
c
yn esbonio y gall methiant P i ddarparu’r wybodaeth a’r ddogfennaeth ychwanegol gael effaith anffafriol ar y penderfyniad ar yr adolygiad.
4
Os darperir yr wybodaeth a’r ddogfennaeth y gofynnwyd amdanynt ar ôl y terfyn amser ar gyfer eu darparu, ond cyn bo penderfyniad ar yr adolygiad wedi ei wneud, caniateir i’r wybodaeth honno gael ei chymryd i ystyriaeth yn y broses o benderfynu.
Y penderfyniad14
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), cyn gynted ag y bo modd ar ôl cael gwybodaeth a dogfennaeth ddigonol ar gyfer cynnal yr adolygiad, a beth bynnag o fewn deg diwrnod gwaith ar ôl yr adeg honno, rhaid i’r awdurdod lleol—
a
gwneud penderfyniad ar yr adolygiad a’r camau y bydd angen eu cymryd i’w weithredu;
b
anfon datganiad at y ceisydd ac unrhyw gynrychiolydd, sy’n nodi—
i
y penderfyniad;
ii
y rhesymau am y penderfyniad hwnnw;
iii
bod hawl gan y ceisydd i wneud cwyn o dan Reoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 20143 os yw’n anfodlon ar y penderfyniad;
iv
os yw ffi’r ceisydd wedi ei diwygio o ganlyniad i’r adolygiad, dylid cynnwys yn y datganiad yr wybodaeth ganlynol—
aa
gwybodaeth am y gofal a’r cymorth y mae’r ffi yn ymwneud â hwy;
bb
y ffi safonol am y gofal a’r cymorth;
cc
os nad y ffi safonol yw’r ffi a osodwyd yn dilyn yr adolygiad, swm y ffi a osodwyd;
dd
gwybodaeth am y modd y cyfrifwyd y ffi (gan gynnwys manylion unrhyw asesiad ariannol);
2
Pan fo rheoliad 13(3) yn gymwys a’r wybodaeth a’r ddogfennaeth ychwanegol heb eu darparu, rhaid i’r awdurdod lleol wneud penderfyniad o dan baragraff (1)(a) cyn gynted ag y bo modd, neu beth bynnag o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl cael gwybodaeth a dogfennaeth ddigonol, ond heb gynnwys yr wybodaeth a’r ddogfennaeth y gofynnwyd amdanynt o dan reoliad 13 ond nas darparwyd.
3
Os daw’r awdurdod lleol i’r casgliad na all gadw at y terfynau amser a bennir ym mharagraffau (1) neu (2), rhaid iddo, cyn gynted ag y bo modd a beth bynnag o fewn y cyfnodau a bennir ym mharagraffau (1) neu (2), ddarparu datganiad i’r ceisydd sy’n nodi—
a
na fydd yn gallu darparu penderfyniad o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (1) neu (2);
b
y rheswm pam y mae’n analluog i gydymffurfio â’r terfyn amser hwnnw;
c
erbyn pa ddyddiad y bydd yn darparu penderfyniad; a
d
y caiff y ceisydd wneud dewisiad i beidio â thalu’r ffi am weddill y cyfnod adolygu drwy hysbysu’r awdurdod lleol naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen.
4
Cyn gwneud penderfyniad o dan adran (1)(a), rhaid i’r awdurdod lleol ystyried—
a
manylion y cais;
b
polisi codi ffioedd cyfredol yr awdurdod lleol;
c
Rhan 5 o’r Ddeddf neu, pan fo’n briodol, unrhyw reoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o’r Ddeddf;
d
y Rheoliadau;
e
unrhyw Reoliadau eraill a wnaed o dan Ran 5 o’r Ddeddf a ystyrir yn berthnasol gan yr awdurdod lleol;
f
unrhyw God neu ganllawiau perthnasol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 145 o’r Ddeddf;
g
incwm a threuliau’r ceisydd;
h
os cynhaliwyd un, asesiad ariannol y ceisydd, a wnaed at y diben o wneud dyfarniad o dan adran 66 o’r Ddeddf neu at y diben o ddyfarnu ad-daliad neu gyfraniad yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o’r Ddeddf, sydd wedi arwain at y ffi sy’n destun yr adolygiad; ac
i
unrhyw amgylchiadau, cyfredol a rhagweladwy, a allai effeithio ar allu’r ceisydd i dalu’r ffi.
5
Rhagdybir y bydd datganiad wedi ei ddarparu o dan baragraff (1) ar y dyddiad y’i dyroddir gan yr awdurdod lleol.
Talu’r ffi yn ystod ac ar ôl yr adolygiad15
1
Os gwneir cais, caiff y ceisydd wneud dewisiad i beidio â thalu’r ffi neu’r rhan o’r ffi sy’n destun yr adolygiad, drwy gydol y cyfnod adolygu, ond bydd y swm nas telir yn cronni.
2
Os gwneir dewisiad o dan baragraff (1), rhaid i’r ceisydd hysbysu’r awdurdod lleol ynghylch ei ddewisiad, naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen, o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl cael datganiad o dan reoliad 10(1).
3
Os yw awdurdod lleol yn anfon datganiad at y ceisydd o dan reoliad 14(3) caiff y ceisydd wneud dewisiad i beidio â thalu’r ffi neu’r rhan o’r ffi sy’n destun yr adolygiad yn ystod gweddill y cyfnod adolygu, ac ni fydd unrhyw swm nas telir yn ystod gweddill y cyfnod adolygu yn cronni.
4
Os gwneir dewisiad o dan baragraff (3), rhaid i’r ceisydd hysbysu’r awdurdod lleol ynghylch ei ddewisiad, naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen, o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl cael datganiad o dan reoliad 14(3).
5
Pan hysbysir yr awdurdod lleol na fydd y ceisydd yn talu ei gyfraniad tuag at daliadau uniongyrchol yn ystod y cyfan neu’r gweddill o’r cyfnod adolygu, rhaid i’r awdurdod lleol wneud taliadau uniongyrchol gros yn ystod—
a
y cyfan o’r cyfnod adolygu pan wneir dewisiad o dan baragraff (1); neu
b
gweddill y cyfnod adolygu pan wneir dewisiad o dan baragraff (3).
6
Yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8), caiff awdurdod lleol, ar ôl diwedd y cyfnod adolygu, adennill unrhyw swm nas talwyd sydd wedi cronni yn ystod y cyfnod adolygu o dan baragraff (1).
7
Y swm cronedig y caniateir ei adennill o dan baragraff (6) yw swm y ffi y penderfynodd yr awdurdod lleol sy’n gywir o dan reoliad 14(1)(a).
8
Ni chaiff awdurdod lleol adennill unrhyw ffi, neu’r rhan o’r ffi sy’n destun yr adolygiad, nas talwyd yn ystod y cyfnod rhwng anfon datganiad o dan reoliad 14(3) a diwedd y cyfnod adolygu.
9
Os yw awdurdod lleol yn penderfynu bod y ffi a ddylai fod yn daladwy gan y ceisydd yn llai na’r ffi flaenorol a osodwyd ar y ceisydd, rhaid i’r awdurdod lleol, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl anfon ei benderfyniad at y ceisydd, dalu i’r ceisydd y gwahaniaeth rhwng y swm a ddylai fod yn daladwy a’r swm, os oes un, a dalwyd eisoes gan y ceisydd.
10
Os yw awdurdod lleol yn penderfynu bod y ffi a ddylai fod yn daladwy gan y ceisydd yn fwy na’r ffi flaenorol a osodwyd ar y ceisydd, caiff yr awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i baragraff (8), adennill y gwahaniaeth rhwng swm y ffi a ddylai fod yn daladwy a’r swm, os oes un, a dalwyd eisoes gan y ceisydd.
11
Ni chaiff swm y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei dalu o dan baragraff (9) neu y caiff ei adennill o dan baragraff (10), pan fo’r ffi wedi ei diwygio oherwydd newid yn amgylchiadau ariannol y ceisydd, ymwneud ag unrhyw gyfnod o amser cyn y newid hwnnw mewn amgylchiadau ariannol.
12
Wrth adennill swm oddi ar y ceisydd o dan baragraff (6) neu (10), rhaid i’r awdurdod lleol—
a
rhoi sylw i amgylchiadau ariannol personol y ceisydd; a
b
bodloni ei hunan na fydd adennill y swm yn peri bod y ceisydd yn dioddef caledi ariannol; neu
c
os yw’r awdurdod lleol o’r farn y byddai adennill y swm hwnnw yn peri i’r ceisydd ddioddef caledi ariannol, cynnig i’r ceisydd yr opsiwn o ad-dalu’r swm mewn rhandaliadau cyfnodol.
13
Pan fo’r awdurdod lleol yn ceisio adennill unrhyw swm oddi ar drosglwyddai atebol, nid yw paragraff 12 yn gymwys.
Dirymu16
Mae Rheoliadau Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Adolygu Penderfyniadau ar Godi Ffioedd) (Cymru) 2011 4 wedi eu dirymu.
Darpariaeth drosiannol17
Pan fo cais wedi ei wneud am adolygu ffi, ad-daliad neu gyfraniad yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, ond y cais hwnnw heb ei benderfynu eto gan yr awdurdod lleol, caiff yr awdurdod lleol barhau i gynnal yr adolygiad ac ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r adolygiad hwnnw, ac eithrio y bydd rhaid i’r awdurdod lleol anfon penderfyniad at y ceisydd o fewn 3 mis wedi i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)